Carchar am ladd ei fam a'i chwaer

  • Cyhoeddwyd
ty jenkin
Disgrifiad o’r llun,
Roedd John Jenkin wedi ymosod ar Alice McMeekin, 58 oed, ac ar Katie Jenkin, 20 oed yn eu cartref yn Cumbria fis Mehefin y llynedd.

Mae dyn a laddodd ei fam a'i chwaer gyda bwyell wedi iddo gael ei ryddhau o ysbyty seiciatryddol wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes.

Roedd John Jenkin wedi ymosod ar Alice McMeekin, 58 oed, ac ar Katie Jenkin, 20 oed yn eu cartref yn Cumbria mis Mehefin y llynedd.

Roedd Katie yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghaerdydd.

Ddau ddiwrnod ynghynt, roedd wedi cael ei anfon i uned iechyd meddwl yn Ysbyty Cyffredinol Furness wedi iddo geisio lladd ei hun.

Roedd wedi cymryd cyffuriau LSD a thabledi atal poen cyn ceisio boddi ei hun a thorri ei arddyrnau.

Fe gafodd ei ryddhau o'r uned wedi archwiliad 90 munud.

Fe blediodd Jenkin, sy'n 24 oed, yn euog i ddynladdiad mewn gwrandawiad cynharach.

Penderfynodd y Barnwr yn Llys y Goron Preston y bydd yn cael ei gadw mewn uned seiciatryddol yn Ysbyty Ashworth ar lannau Mersi.

Bydd yn cael ei drosglwyddo i garchar iddo gael ei drin.

Mae arolwg o'r asiantaethau oedd yn gysylltiedig â'i gyflwr rŵan ar droed.

Dywedodd Ymddiriedolaeth Partneriaeth GIG Cumbria: "Roedd yr asesiad a wnaed yn drylwyr ac roedd y camau a gymrwyd yn addas i'w anghenion ar y pryd."