Amddiffyn plant rhag cosbi corfforol

  • Cyhoeddwyd
Plant ysgol
Disgrifiad o’r llun,
Mae cosbi corfforol yn cael effaith ar ymddygiad gwrth-gymdeithasol plant, yn ôl grwp o arbenigwyr sydd am ei wahardd

Mae academyddion o Gymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth yn gynt fyddai'n sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn yn yr un ffordd ag oedolion rhag ymosodiadau corfforol.

Maen nhw am weld yr amddiffyniad cyfreithiol o 'gosb resymol' i oedolion sy'n ymosod yn gorfforol ar blant yn cael ei ddiddymu.

Mae'r grŵp, sy'n galw'u hunain yn 'Academyddion am Amddiffyn Cyfartal' i gyd yn byw neu'n gweithio yng Nghymru, a gydag arbenigedd ym meysydd gofal cymdeithasol plant, addysg, meddygaeth plant, cyfraith teuluol a throseddeg.

Mae'r 21 o aelodau yn dadlau bod tystiolaeth ymchwil rhyngwladol yn gryf o blaid newid y ddeddf.

'Canlyniadau negyddol'

Mae'r grŵp yn credu bod cosb gorfforol, sy'n cael ei ddiffinio fel achosi poen i blentyn fel cosb ond ddim yn anafu neu'n niweidio, yn cael ei gysylltu gyda nifer o ganlyniadau negyddol.

Mae ymchwil niferus yn dangos bod cysylltiad cryf rhwng profi cosb gorfforol â:

Mae'r grwp yn credu bod yr amddiffyniad cyfreithiol o 'gosb resymol' sydd ar gael ar hyn o bryd i rieni a rhai gofalwyr o dan Adran 58 o'r Ddeddf Plant 2004 yn arwain at ddryswch i rieni, a'r bobl proffesiynol sy'n eu cynghori.

Mae nhw'n dweud bod angen symleiddio'r gyfraith a rhoi'r un amddiffyniad rhag ymosodiadau i blant ag sydd i oedolion.

Gwahardd

Mae'r grŵp yn dadlau bod ymchwil rhyngwladol yn dystiolaeth bod angen newid deddfwriaethol, i roi Cymru yn yr un sefyllfa a'r 36 o wledydd eraill sydd wedi gwahardd pob math o gosbi corfforol i blant.

Dywedodd Dr Sally Holland, o Adran Astudiaethau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, yn dweud bod y dystiolaeth yn dangos yn glir nad taro plant yw'r ffordd orau ymlaen.

"Nid plant sy'n cael eu taro yw'r rhai sy'n ymddwyn orau," meddai.

"Fel mater o iechyd cyhoeddus, nid yw cosbi plant yn gorfforol yn dderbyniol. Dylai plant gael yr un amddiffyniad cyfreithiol ag oedolion.

"Ni fydd hyn yn arwain at wneud rhieni yn droseddwyr. Nid yw'n cyflwyno trosedd newydd - mae'n dweud na ddylai 'cosb resymol' fod yn amddiffyniad."