BBC Cymru Fyw

Anafiadau difrifol i ferch 10 oed wedi gwrthdrawiad

Published
image copyrightPembrokeshire Herald
image captionCafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Llwynhelyg wedi'r gwrthdrawiad
Mae merch 10 mlwydd oed wedi ei chludo i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad gyda cherbyd yn Hwlffordd.
Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i'r digwyddiad ychydig wedi 12:20 ddydd Sadwrn, ar yr A4076 Freeman's Way, yn y dref.
Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod ond mae wedi ail-agor bellach.
Cafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Llwynhelyg mewn cyflwr difrifol.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd sydd â gwybodaeth all helpu'r ymchwiliad i gysylltu ar 101.