Abertawe 3 - 0 Norwich

  • Cyhoeddwyd
Jonathan de GuzmanFfynhonnell y llun, PA

Roedd dwy gôl gan Jonathan de Guzman yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth gyntaf i Abertawe mewn 10 gêm, a'u symud yn bellach oddi wrth waelod yr Uwch Gynghrair.

Doedd yr Elyrch erioed wedi curo Norwich yn yr Uwch Gynghrair cyn y gêm ddydd Sadwrn, ond roedd dwy gol gan y gŵr o'r Iseldiroedd ac ergyd gan Wayne Routledge yn yr ail hanner wedi sicrhau'r pwyntiau yn Stadiwm y Liberty.

Tim Garry Monk oedd gryfaf am y rhan fwyaf o'r gêm, wrth i Michu gael cyfle o fewn wyth munud.

Doedd o methu a rhwydo, ond doedd ddim rhaid i'r cefnogwyr aros yn rhy hir cyn gôl gyntaf de Guzman.

Llwyddodd Jonjo Shelvey i groesi o'r asgell dde, ac wedi i amddiffynwyr Norwich fethu a chlirio, de Guzman oedd yna i saethu i'r rhwyd o 18 llathen.

Ergyd wan gan amddiffynnwr Norwich, Russell Martin oedd unig fygythiad ei dim yn yr hanner cyntaf.

Llwyddodd de Guzman i ddal ar bas cyfrwys Wilfried Bony yn yr ail hanner, cyn codi'r bel dros John Ruddy i sgorio ei ail gol.

Cafodd ergyd Robert Snodgrass ei glirio oddi ar linell y gôl gan yr Elyrch, cyn i ergyd isel Wayne Routledge sicrhau tri phwynt i Abertawe.

Mae'r fuddugoliaeth yn gadael Abertawe yn y 13eg safle yn yr Uwch Gynghrair.

Abertawe 3 - 0 Norwich

Abertawe: Vorm, Rangel, Chico, Williams, Ben Davies, Britton, Shelvey, Routledge, Michu, de Guzman, Bony.

Eilyddion: Amat, Taylor, Hernandez, Dyer, Canas, Tremmel, Vazquez.

Norwich: Ruddy, Martin, Ryan Bennett, Bassong, Olsson, Snodgrass, Howson, Tettey, Hoolahan, Elmander, van Wolfswinkel.

Eilyddion: Whittaker, Johnson, Hooper, Bunn, Gutierrez, Becchio, Redmond.