BBC Cymru Fyw

West Brom 3 - 3 Caerdydd

Published
image copyrightGetty Images
Llwyddodd Caerdydd i gipio pwynt pwysig mewn gem gyffrous oddi cartref yn West Brom.
Sgoriodd Mats Daehli ar ol 95 munud o chwarae, wedi i Gaerdydd fynd ar ei hol hi ddwywaith yn ystod y gêm.
Daeth y bel i Daehli yn y cwrt cosbi, a llwyddodd i droi a saethu i'r rhwyd heibio Ben Foster.
Eiliadau cyn hynny roedd Thievy Bifouma yn edrych fel ei fod wedi cipio'r pwyntiau i dîm Pepe Mel.

Drama hwyr

Daeth drama hwyr wedi gem agored, lle aeth Caerdydd i lawr o 2 - 0 yn yr hanner cyntaf.
Morgan Amalfitano sgoriodd gyntaf, gan saethu o ymhell y tu allan i'r cwrt cosbi yn yr ail funud o chwarae.
Chwaraeodd Amalfitano ran yn yr ail gol hefyd, gan groesi i Dorrans rwydo o fewn 10 munud.
Roedd gobaith i Gaerdydd cyn yr egwyl, diolch i gol wych gan Jordan Mutch.
Y capten, Steven Caulker beniodd i'r rhwyd i ddod a'r Adar Gleision yn gyfartal ar ol 73 o funudau.
Roedd hi'n edrych yn wael ar dîm Ole Gunnar Solskjaer wrth i Thievy Bifouma droi ergyd Stephane Sessegnon i'r rhwyd o dan y gôl-geidwad.
Ond roedd un gôl arall ar ol yn y gêm, gyda Daehli yn sgorio o groesiad Zaha i sicrhau pwynt hollbwysig i Gaerdydd.
Er y fuddugoliaeth, mae Caerdydd yn parhau i fod yn y tri isaf yn yr Uwch Gynghrair, tri phwynt y tu ol i West Brom.
West Brom: Foster, Reid, McAuley, Dawson, Ridgewell, Amalfitano, Morrison, Mulumbu, Dorrans, Sessegnon, Vydra.
Eilyddion: Myhill, Lugano, O'Neil, Roofe, Berahino, Gera, Thievy.
Caerdydd: Marshall, Da Silva, Theophile-Catherine, Caulker, Turner, Taylor, Mutch, Medel, Gunnarsson, Bellamy, Campbell.
Eilyddion: Jones, Cowie, Cala, Lewis, Zaha, Whittingham, Daehli.

Straeon perthnasol

  • Caerdydd 3 - 6 Lerpwl