BBC Cymru Fyw

Zebre 25 - 25 Dreigiau

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Roedd cais hwyr gan Jevon Groves yn ddigon i sicrhau gem gyfartal i'r Dreigiau yn erbyn Zebre yn y Pro12.
Aeth yr Eidalwyr ar y blaen drwy gais Samuela Vunisa tra bod Taulupe Faletau yn y gell cosb.
Sgoriodd Dan Evans gais i ddod a'r Dreigiau yn gyfartal, cyn i gic gosb Gonzalo Garcia roi'r fantais i'r tîm cartref unwaith eto.
Llwyddodd Ashley Smith i groesi'r llinell yn fuan wedyn, a chiciodd Jason Tovey y trosiad, a chic gosb ychwanegol i'r Dreigiau.
Ciciodd Luciano Orquera pump o giciau cosb i roi Zebre ar y blaen o 25 - 18, ond llwyddodd Groves i dorri drwy'r amddiffyn yn hwyr i sgorio cais hollbwysig.
Roedd hyfforddwr y Dreigiau, Lyn Jones wedi gofyn am weld ymateb i golled ei dim yn erbyn Connacht yr wythnos diwethaf.
Sgoriodd y Dreigiau dair cais i un Zebre, rhywbeth fyddai'n sicr o fod wedi plesio'r hyfforddwr.
Zebre: Guglielmo Palazzani; Leonardo Sarto, Tommaso Iannone, Gonzalo Garcia, Dion Berryman; Luciano Orquera, Brendon Leonard; Salvatore Perugini, Davide Giazzon, David Ryan, Quintin Geldenhuys, Marco Bortolami (capt), Filippo Ferrarini, , Andries van Schalkwyk.
Eilyddion: Tommaso D'Apice, Matias Aguero, Dario Chistolini, Emiliano Caffini, Filippo Cristiano, David Odiete, Giovanbattista Venditti, Kameli Ratuvou.
Dreigiau: Dan Evans; Tom Prydie, Pat Leach, Ashley Smith, Will Harries; Jason Tovey, Richie Rees; Phil Price, Elliot Dee, Duncan Bell, Andrew Coombs (capt), Matthew Screech, Lewis Evans, Taulupe Faletau, Nic Cudd.
Eilyddion: Sam Parry, Bruce Douglas, Nathan Buck, Cory Hill, Jevon Groves, Wayne Evans, Jack Dixon, Hallam Amos.

Straeon perthnasol

  • Dreigiau 8 - 24 Connacht