Criwiau'n parhau ar safle tân canolfan ailgylchu
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Dechreuodd y tân yn gynnar fore Gwener
Bydd angen 20 o ddiffoddwyr ar safle tân mewn canolfan ailgylchu ar gyrion Caerdydd "am y dyfodol agos".
Mae tua 2,000 tunnell o ddeunydd gwastraff yn llosgi ar safle Atlantic Recycling ar Ffordd Newton, ger Tredelerch.
Dechreuodd y tân yn gynnar fore Gwener ac roedd hyd at 70 o ddiffoddwyr yn ceisio delio gyda'r tân am gyfnod.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod dau griw, pwmp dwr ac uned reoli ar y safle i daclo'r tân sy'n llosgi plastig a phren.
Dywedodd y gwasanaeth bod eu gwaith yn cael ei rwystro gan rhwng 30 a 40 o silindrau nwy sydd wedi cael eu hoeri i'w hatal rhag ffrwydro.
Cafodd rhwystrau eu gosod 200m o amgylch y safle oherwydd y perygl o ffrwydrad.
Straeon perthnasol
- 28 Mawrth 2014