Scarlets 32-30 Connacht
- Cyhoeddwyd

Mae'r Scarlets wedi cadw eu gobeithion o gymhwyso ar gyfer y Cwpan Ewropeaidd yn fyw gyda buddugoliaeth agos dros Connacht yn y Pro12.
Roedd y tîm cartref ar y blaen o 13-6 ar yr egwyl drwy gais y canolwr Jonathan Davies.
Aeth y Scarlets ymhellach ar y blaen drwy geisiau Gareth Davies a Josh Turnbull wedi'r egwyl.
Ond daeth yr ymwelwyr yn ôl yn gryf.
Sgoriodd Fionn Carr a Robbie Henshaw i leihau'r bwlch a sicrhau diweddglo cyffrous i'r gêm.
Ond y Scarlets oedd gryfaf, wrth i Gareth Maule sgorio pedwerydd cais ei dim, i sicrhau pwynt bonws.
Roedd un cais arall cyn y chwiban olaf, aeth Eoin McKeon dros y linell i sicrhau pwynt bonws i Connacht hefyd.
Mae'r fuddugoliaeth yn gadael y Scarlets yn y chweched safle yn y Pro12, gyda Connacht saith pwynt y tu ol iddyn nhw yn y seithfed safle.
Scarlets 32-30 Connacht
Scarlets: Liam Williams; Kristian Phillips, Jonathan Davies (capt), Olly Barkley, Jordan Williams; Rhys Priestland, Gareth Davies; Phil John, Ken Owens, Rhodri Jones, Jake Ball, Johan Snyman, Josh Turnbull, John Barclay, Sione Timani.
Eilyddion: Emyr Phillips, Rob Evans, Jacobie Adriaanse, Richard Kelly, Lewis Rawlins, Rhodri Williams, Aled Thomas, Gareth Maule.
Connacht: R Henshaw; T O'Halloran, E Griffin, D McSharry, F Carr; D Parks, K Marmion; D Buckley, J Harris-Wright, R Ah You; A Muldowney, M Kearney; J Muldoon (capt), E Masterson, E McKeon.
Eilyddion: D Heffernan, R Loughney, N White, M Swift, A Browne, F Murphy, M Nikora, D Leader
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2014