Cynnal cynhadledd i feithrin newyddiadurwyr y dyfodol

  • Cyhoeddwyd
Papurau newydd
Disgrifiad o’r llun,
Y bwriad yw hybu newyddiadurwyr y dyfodol

Mae cynhadledd arbennig yng Nghaerdydd yn "ceisio meithrin newyddiadurwyr y dyfodol".

Yno mae 140 o ddisgyblion ysgol de Cymru yn cyfarfod newyddiadurwyr profiadol yn ogystal â Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

Y trefnwyr yw News UK sy'n cyhoeddi papurau newydd The Times, The Sun a'r Sunday Times.

Talent newydd

Y bwriad ydi meithrin talent newyddiadurol drwy gynllun y News Academy - cynllun i gefnogi pobl ifanc 16-18 oed sy'n gobeithio dilyn gyrfa yn y cyfryngau.

Dywedodd Carwyn Jones: ''Mae'r cyfryngau yn chwarae rhan bwysig wrth gadw gwleidyddion yn atebol a throsglwyddo'r hyn mae gwleidyddion yn ei wneud sy'n effeithio ar fywydau pob dydd y cyhoedd.

''Mae bod yn rhan o'r cyfryngau yn gyfle i fod ar flaen y gad ym maes materion cyfoes, mewn gyrfa gyffrous sy'n newid yn sydyn. Rwyf yn falch o fod yn rhan o waith y News Academy i gefnogi ac ysbrydoli newyddiadurwyr y dyfodol.''

Yn ôl Guto Harri, Cyfarwyddwr Cysylltiadau News UK: ''Gobaith y News Academy ydi ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr newyddion fydd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i newyddiaduraeth o'r safon uchaf ac rwyf wrth fy modd i allu dod â'r gwaith chwilio am dalent newydd i fy ninas fy hun, ynghyd â thalent newyddiadurol wych.''

'Lluosogrwydd'

Dywedodd Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler: ''Rwyf wedi bod yn ymgyrchu i bwysleisio'r angen am luosogrwydd yn sylw'r cyfryngau i waith y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn sicrhau fod y broses ddemocrataidd yn gweithio yng Nghymru.

''Rhan o'r gwaith ydi hybu newyddiadurwyr y dyfodol a'u dysgu sut y mae gohebu am gorff deddfu gwlad yn ganolog i ddemocratiaeth iach ...''

Gobaith y News Academy ydi magu diddordeb 350 o fyfyrwyr ar hyd a lled Prydain yn y gobaith o'u denu i fod yn newyddiadurwyr yn y dyfodol.