Damwain ger Ciliau Aeron: merch 22 oed wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae merch 22 oed wedi marw oherwydd damwain ar yr A482 ger Ciliau Aeron yng Ngheredigion.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gar nos Sadwrn tua saith o'r gloch.
Mi gafodd gyrrwr y Volkswagon Golf ei anfon i Ysbyty Glangwili ond mi fuodd y ferch 22 oed, oedd yn gyrru Fiat Punto, farw yn y fan a'r lle.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i lygad dystion oedd yn teithio ar y ffordd gysylltu gyda Heddlu Aberystwyth trwy ffonio 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol