Menyw wedi ei hachub o'r môr yn Llandudno
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi ei hanfon i Ysbyty Glan Clwyd ar ôl cael ei achub o'r môr ger Pen y Gogarth Fach yn Llandudno.
Cafodd y bad achub alwad am 11.29 bore Llun yn dweud ei bod hi mewn trafferthion.
Ar ol iddi gael triniaeth frys iddi mi aeth hofrennydd RAF Y Fali a hi i Ysbyty Glan Clwyd.
Does dim gwybodaeth ar hyn o bryd am gyflwr y fenyw.