Clwb pêl droed Port Talbot yn talu ei dyled

  • Cyhoeddwyd
Port Talbot FC
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r clwb yn awyddus i edrych i'r dyfodol

Mae Clwb Pêl-droed Port Talbot wedi talu eu dyled i Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Roedd y clwb yn wynebu cais dirwyn i ben ond fydd hyn ddim yn digwydd.

Mi oedd y clwb wedi beio'r tywydd drwg am y ddyled, gan ddweud nad oedden nhw wedi medru chwarae llawer o gemau gartref.

Canlyniad hyn oedd bod eu hincwm nhw yn llai.

Dywedodd y prif weithredwr, Andrew Edwards, bod rhai o noddwyr y clwb wedi helpu yn ariannol yn ystod y "cyfnod anodd".

Mewn datganiad ar eu gwefan mae'r clwb wedi dweud eu bod nhw am edrych i'r dyfodol a cheisio bod mewn safle uchel yng Nghynghrair Cymru.