Dynes wedi marw ar ôl bod yn sownd ar draeth Cefn Sidan

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes 68 oed wedi marw yn Ysbyty Treforys wedi iddi hi a'i merch 40 oed gael eu hachub ar draeth yn Sir Gâr. Roedd y ddwy yn cerdded gydag wyth o gŵn cyn mynd i drafferthion.

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, enw'r ddynes a fu farw oedd Susan Wendy Hackett, o Gynwyl Elfed.

Dywedodd yr heddlu fod ei theulu a'r crwner wedi cael gwybod.

Yn ôl y gwasanaethau brys, cafodd y ddwy eu dal gan y llanw ar draeth Cefn Sidan.

Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw am 4.24pm ddydd Sul ac aed â'r ddynes arall mewn ambiwlans i Ysbyty Glangwili.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Roedd y llanw'n dod i mewn.

"Gwylwyr y Glannau a Sefydliad y Bad Achub achubodd y ddwy ac roedd yr heddlu ar gael rhag ofn."

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau: "Mae'r llanw'n beryglus iawn, yn dod i mewn yn gyflym iawn yn aber Afon Llwchwr."

Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi delio ddydd Sul gyda nifer o ddigwyddiadau yn Y Mwmbwls, Abertawe, ac yn Sili, Bro Morgannwg.