Cwest i achos damwain ar yr M5
- Cyhoeddwyd

Mae cwest i un o'r damweiniau traffordd gwaethaf yn y DU wedi clywed gan dystion welodd "wal o niwl trwchus."
Soniodd un tyst i'r ddamwain ar draffordd yr M5 ger Taunton, Gwlad yr Haf, ar Dachwedd 4 2011 am wynt oedd yn debyg i sylffwr.
Bu farw saith o bobl ac anafwyd 51 yn y ddamwain ger Cyffordd 25.
Ym mis Rhagfyr, cafwyd Geoffrey Counsell yn ddieuog o dorri Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle.
Roedd wedi trefnu arddangosfa tân gwyllt ar gaeau rygbi yn Taunton.
Ymhlith y rhai fu farw roedd y pâr o Gasnewydd, Tony a Pamela Adams.
Clywodd y cwest yn Llys y Goron Taunton nad oedd modd i batholegwyr gadarnhau beth oedd achos marwolaeth y ddau gan gymaint oedd difrod y tân.
Cyfres o ddamweiniau
Bu cyfres o ddamweiniau am 8.20pm ar yr M5 ychydig o funudau ar ôl i'r tân gwyllt ddod i ben ar gae clwb rygbi tua 200 o droedfeddi o'r draffordd.
Dywedodd John Krostovnikoff, gyrrwr lori, wrth y cwest: "Fel rheol, fe allwch chi weld niwl yn dod ond y tro hwn roedd hi'n glir cyn mynd drwy wal, yn hynod drwchus."
Dywedodd Ian Thorne, gyrrwr fan oedd yn dychwelyd i Taunton, iddo weld mwg trwchus funudau cyn y ddamwain.
"Roedd hi'n anodd gweld. Roeddwn yn gallu gweld y tân gwyllt, ac yn gallu gweld y mwg yn mynd i gyfeiriad y draffordd.
"Roedd y mwg tua 200 llath o drwch ac yn gwynto fel sylffwr."
Mae disgwyl i'r cwest bara am wythnosau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2011