Arestio dyn wedi digwyddiad yn Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Archwiliadau ffordd
Disgrifiad o’r llun,
Heddlu yn holli gyrwyr yn yr ardal ddydd Llun

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio dyn mewn cysylltiad â digwyddiad yn Aberteifi ddydd Llun.

Roedd plismyn wedi bod yn ymchwilio i adroddiadau am ffrae y tu allan i ysgol uwchradd y dre', gyda honiadau bod plentyn yn sgrechian yng nghefn car.

Cadarnhaodd swyddogion ddydd Mawrth fod dyn lleol wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag achos honedig o ymosod.

Dyw'r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Bu swyddogion yn holi gyrwyr yn yr ardal ddydd Llun, gan archwilio rhai ceir.

Fe ddiolchodd yr heddlu i'r cyhoedd am eu cymorth gyda'r ymchwiliad.

Fe wnaethon nhw hefyd ymddiheuro am bresenoldeb mwy o swyddogion na'r arfer yn y dre', a'r effaith bosib a gafodd hynny ar y gymuned, ond dywedon nhw fod hyn yn hanfodol er mwyn ymchwilio'r mater yn llawn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol