Trafod rôl menywod mewn democratiaeth
- Cyhoeddwyd

Fe fydd corff a sefydlwyd i drafod rôl Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus yn clywed tystiolaeth am y tro cyntaf ddydd Mawrth.
Sefydlwyd y Glymblaid Menywod mewn Democratiaeth o ganlyniad i ymrwymiad gan Lywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler, gyda'r nod o drafod arfer gorau ar draws y byd er mwyn cynyddu'r gynrychiolaeth seneddol o fenywod ymhlith pethau eraill.
O dan gadeiryddiaeth y Fonesig Butler, fe fydd pob plaid wleidyddol sydd â chynrychiolaeth yn y Cynulliad yn anfon cynrychiolydd, sef :
- Jocelyn Davies - Plaid Cymru;
- Rebecca Evans - Llafur;
- Eluned Parrott - Democratiaid Rhyddfrydol;
- Antoinette Sandbach - Ceidwadwyr.
'Taith hir o'n blaenau'
Ar drothwy'r cyfarfod cyntaf, dywedodd y Fonesig Rosemary Butler: "Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi perfformio'n weddol dda o ran y gynrychiolaeth o fenywod.
"Ar un adeg, roedd aelodaeth y Cynulliad wedi'i rhannu'n gyfartal rhwng dynion a menywod, ond mae'r nifer wedi dirywio mewn etholiadau diweddar.
"Mae'r Cynulliad yn rhif naw yn y byd o hyd o ran y gynrychiolaeth o fenywod, ond mae San Steffan yn enghraifft o'r daith hir sydd o'n blaenau o hyd o ran cynyddu'r gynrychiolaeth seneddol o fenywod.
"Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, mae angen inni ddysgu am y dulliau y mae seneddau a phleidiau gwleidyddol o bob cwr o'r byd yn eu defnyddio i annog a sicrhau'r gynrychiolaeth o fenywod."
Ym mis Ionawr fe lansiodd Ms Butler yr Archwiliad o Ddemocratiaeth - cynllun datblygu i annog mwy o fenywod i ymgeisio am swyddi cyhoeddus.
Yn y cyfarfod ddydd Mawrth, un o'r pynciau penodol dan sylw fydd a yw seneddau ar draws y byd sydd â chynrychiolaeth gref o ran menywod yn creu polisïau a deddfwriaeth wahanol o ganlyniad i'r gynrychiolaeth honno.
Bydd y Glymblaid yn clywed tystiolaeth gan Dr Ruth Fox, Cyfarwyddwr Cymdeithas Hansard, ac Adele Baumgardt, ymgynghorydd annibynnol sydd wedi gwneud gwaith ymchwil i'r Cyngor Prydeinig ar rôl seneddwyr yng nghyd-destun cydraddoldeb.
Straeon perthnasol
- 2 Hydref 2013
- 31 Rhagfyr 2013