Dewis consortiwm CFP i ddadgomisiynu Wylfa
- Cyhoeddwyd

Mae consortiwm wedi cael ei ddewis ar gyfer dadgomisiynu Gorsaf Bŵer Wylfa ar Ynys Môn.
Cyhoeddodd yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear ddydd Llun fod CFP (Cavendish Fluor Partnership) wedi ei ddewis fel y bartneriaeth sy'n cael ei ffafrio ar gyfer cytundeb gwerth bilynnau o bunnoedd i ddadgomisiynu gorsafoedd niwclear trwy'r DU.
Bydd 12 o safleoedd yn cael eu dadgomisiynu i gyd, gan gynnwys Wylfa, ger Cemaes, ynghyd â Thrawsfynydd.
Mae'r Cavendish Fluor Partnership yn gonsortiwm sydd wedi ei greu yn arbennig ar y cyd rhwng Cavendish Nuclear a'r Fluor Corporation.
Croeso
Mae arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Ieuan Williams, wedi croesawu'r dewis.
Meddai: "Mae hwn yn benodiad hynod o bwysig o safbwynt Gorsaf Bŵer Wylfa ac Ynys Môn.
"Rwyf yn hyderus y bydd proses caffael yr NDA a'u dealltwriaeth dechnegol o'r safle yn sicrhau'r canlyniadau gorau o safbwynt diogelwch a masnachol.
Ychwanegodd: "Mae record y cwmnïau sy'n rhan o CFP hefyd yn cynnig hyder o ran trawsnewid Wylfa yn ddiogel o safle sydd yn cynhyrchu ynni i safle wedi ei ddadgomisiynu."
Cafodd y cyhoeddiad groeso hefyd gan ddeilydd portffolio Datblygu Economaidd Môn a Chadeirydd Grŵp Rhan-ddeiliaid Wylfa, y Cynghorydd Aled Morris Jones, a ddywedodd:
"Rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu gyda CFP er mwyn cael dysgu mwy am eu strategaeth ar gyfer y safle.
"Bydd dyfodol safle Wylfa, wrth gwrs, yn agwedd bwysig o waith Rhaglen Ynys Ynni Môn gyda'r dadgomisiynu hefyd yn cynnig cyfleoedd gwaith i gwmnïau a phobl leol."
Pedwar tendr
Cafodd y cais ei ddewis o blith pedwar tendr, gyda nifer o feini prawf dan ystyriaeth gan gynnwys iechyd, diogelwch, rhesymeg dechnegol sylfaenol, telerau masnachol, arddull economaidd gymdeithasol a chost.
Meddai John Clarke, Prif Weithredwr yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear.
"Mae dewis CFP yn gam allweddol yn ein hymgais i ddenu rheolwyr ac arloeswyr o safon fyd-eang i'n safleoedd.
"Rydym wedi dilyn proses eang a thrwyadl i sicrhau ein bod yn dewis y corff gorau posib ar gyfer y safleoedd heriol hyn. Mae CFP yn cynnig record lwyddiannus a phrofiad eang ym maes niwclear, fydd o fydd enfawr i'r rhaglen dadgomisiynu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2012