Ras Feicio Tour of Britain yn dod i Gymru eto
- Cyhoeddwyd

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, bydd ras feicio broffesiynol fwyaf y DU - y Tour of Britain - yn ymweld â Chymru ym mis Medi.
Fel yn 2013, bydd dau gymal yn cael eu cynnal yr ochr yma i Glawdd Offa.
Bydd ail gymal y ras ar ddydd Llun, Medi 8 yn gorffen yn Llandudno, a'r beicwyr yn teithio rhwng Y Drenewydd a'r Tymbl yn y trydydd cymal y diwrnod canlynol.
Bydd yr ail gymal yn 197 cilometr, gan gychwyn yn Knowsley a'r pedwar cilometr olaf ar hyd llwybr Pen y Gogarth, cyn gorffen ar hyd glan y môr Llandudno.
Mae'r trydydd cymal o'r Drenewydd yn 150 cilometr o hyd, gan orffen gyda her fyny allt am chwe chilometr yn Y Tymbl.
Cafodd y Tour of Britain ei hatgyfodi fel ras fodern yn 2004.
Ymhlith yr enwau mawr sydd wedi cystadlu yn y gorffennol mae Bradley Wiggins, Mark Cavendish a Geraint Thomas.
Bydd Tour of Britain 2014 yn dechrau yn Lerpwl ar ddydd Sul, Medi 7, ac yn gorffen yng nghanol Llundain ar Fedi 14.
Straeon perthnasol
- 19 Medi 2013
- 18 Medi 2013
- 15 Medi 2013
- 21 Mawrth 2013