Agwedd papurau Llundain at Gymru

  • Cyhoeddwyd
PapersFfynhonnell y llun, bbc

Dros yr wythnosau diwethaf mae materion Cymreig wedi ennill lle amlwg ym mhapurau a chynhyrchwyd yn Llundain megis The Sun, The Times a'r Daily Mail.

Ond dydi'r penawdau ddim wedi plesio pawb. Mae'r son am "the People's Republic of Wales" a "jobs for the boyos" wedi arwain at rai i gyhuddo'r wasg Brydeinig o fod yn hen ffasiwn ac yn ystrydebol wrth graffu ar ddigwyddiadau diweddar, a record llywodraeth Cymru.

Dim syndod felly mai prinder newyddiadurwyr y papurau Prydeinig yng Nghymru oedd un o'r pynciau llosg yn ystod lansiad ymdrech newydd News UK - perchnogion The Sun, The Times a'r Sunday Times - i ddenu mwy o bobl ifanc i ystyried gyrfa gyda'r wasg.

'Gwerthu mwy?'

Wrth i olygydd The Sun, yr Albanwr David Dinsmore, ymweld â Chaerdydd i hyrwyddo'r Academi Newyddion, fe ddwedodd fod ei bapur nawr yn ystyried sefydlu swyddfa Gymreig.

"Rwy'n meddwl bod gan Gymru llawer i gynnig - cwpl o dimau pêl-droed yn yr uwch gynghrair, tîm rygbi gweddol - yn sicr yn well na thîm yr Alban - a hefyd y senedd. Rwy'n meddwl fod hi ddim wedi'i chynrychioli cystal o'r safbwynt yna.

"Ond yn amlwg mae'n rhaid i ni wneud ein symiau, a gofyn 'a fyddwn ni yn gwerthu mwy o bapurau o ganlyniad?'," meddai Mr Dinsmore.

Tra bod rhai yn awgrymu bod materion bob dydd, fel busnes y Cynulliad, yn rhy ddiflas i dudalennau The Sun a'r Daily Mail, ystadegau sylfaenol sydd yn lliwio penderfyniadau'r papurau yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes.

"Yn aml iawn yr un peth fedrwch chi ddweud am San Steffan, does 'na ddim stori yn San Steffan hanner yr amser. Ond mae'r rheini yn cael sylw. Pam?

"Wel, rydych chi'n son am boblogaeth o 52 miliwn yn Lloegr ac yng Nghymru 3 miliwn, a dyna pam mae papurau Lloegr yn canolbwyntio ar Loegr," meddai Mr Hughes.

'Ddim yn ddigon beirniadol'

Yn ystod cynhadledd News UK dwedodd Carwyn Jones ei fod yn awyddus i weld mwy o faterion Cymreig ym mhapurau fel The Sun, ac mae am i'r wasg Brydeinig gynhyrchu rhifynnau Cymreig yn debyg i'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

"Mae gymaint o bobl yng Nghymru yn darllen papurau Lloegr, a does dim byd yn y papurau am Gymru. Un o'r problemau yw dyw pobl Cymru ddim yn ddigon beirniadol ynglŷn â'r papurau maen nhw'n eu cael," meddai.

"Yn yr Alban fyddan nhw byth yn prynu papur sydd heb unrhyw fath o newyddion o'r Alban yn y papur. Ac felly efallai yng Nghymru mae'n rhaid i ni ddechrau dweud 'chi'n neud papurau i'r Alban a Gogledd Iwerddon, pam felly ddim cael rhywbeth i Gymru?'," meddai Mr Jones.

Myfyrwyr 16-18 oed oedd yn y gynulleidfa ar gyfer y gynhadledd, ac roedd cynrychiolaeth materion Cymreig ar y teledu hefyd yn bwnc trafod.

Fe ofynnwyd i Carwyn Jones os oedd yn cefnogi'r ymdrech i sefydlu rhaglen Newsnight ar gyfer Cymru - "Ydw yn bendant" oedd ei ateb.

Roedd David Dinsmore hefyd wedi'i herio gan un myfyriwr am ei benderfyniad i barhau i argraffu lluniau o fodelau rhannol-noeth ar drydedd dudalen The Sun. Yn ei ateb, fe ddwedodd fod y rhan helaeth o'i ddarllenwyr yn hoffi'r dudalen, ac fe fyddai ond yn ail-ystyried os mai lleiafrif oedd yn ei gefnogi.