Heddlu Gwent yn ailagor saith gorsaf a gaewyd yn 2012
- Cyhoeddwyd

Nod ailagor saith o orsafoedd Heddlu Gwent yw cynnig y gwasanaeth gorau posib i'r cyhoedd, yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent.
Dywedodd Ian Johnston bod mynediad i orsafoedd heddlu yn "uchel ymhlith blaenoriaethau" nifer o gymunedau.
Bydd y gorsafoedd nawr ar agor bum diwrnod yr wythnos rhwng 9-5, gyda dwy arall yn ymestyn eu horiau agor.
Anogodd Mr Johnston pobl i "wneud defnydd effeithiol" o'r gorsafoedd.
Bydd y llu yn ailagor gorsafoedd Caerffili, Cas-gwent, Maindy, Trefynwy, Pont-y-pŵl, Rhisga ac Ystrad Mynach.
Roedd desgiau blaen yn y saith gorsaf ymhlith 17 i gau yn 2012 fel rhan o fesurau i arbed £500,000.
Yn ogystal bydd gorsaf Abertyleri yn agor bob dydd Iau a dydd Gwener rhwng 9:00yb a 5:00yh, gyda Brynmawr yn agor ar yr un oriau o ddydd Llun i ddydd Mercher.
Fe ddaw'r arian i ailagor y gorsafoedd o gyllideb bresennol Heddlu Gwent, ac fe fyddan nhw'n recriwitio swyddogion i weithio yno.
Dywedodd Mr Johnston: "Mae cau gorsafoedd heddlu wedi bod yn uchel ar agenda nifer o'n cymunedau.
"Mae cyhoeddiad heddiw yn ategu rhai o'r blaenoriaethau amlinellwyd yn fy nghynllun plismona o safbwynt darparu'r gwasanaeth gorau posib i bobl Gwent gan leihau ac atal troseddau a gwarchod pobl rhag niwed."
Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Jeff Farrar: "Fe fyddwn ni'n gyda'r pum gorsaf bresennol sy'n golygu y bydd gan y cyhoedd 14 o orsafoedd ar agor i'r cyhoedd yng Ngwent.
"Fe fyddwn ni'n asesu llwyddiant hyn dros y flwyddyn i ddod er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau."
Straeon perthnasol
- 13 Mawrth 2012
- 6 Mawrth 2012