Menyw wedi marw yn dilyn damwain ger Abergwaun

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw wedi marw o'i hanafiadau yn dilyn damwain rhwng Abergwaun a phentref Scleddau yn Sir Benfro.

Am 08.02, cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i ddelio gyda gwrthdrawiad rhwng Mini Cooper glas a Volkswagen Golf llwyd ar y A40.

Mae'r dyn oedd yn gyrru'r Volkswagen wedi ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys yn Abertawe gydag anafiadau difrifol ond dyw ei fywyd ddim mewn perygl.

Dywedodd Cyngor Penfro eu bod wedi penderfynu cau ysgol gynradd Glannau Gwaun yn Abergwaun "yn dilyn marwolaeth drasig aelod o'r staff mewn damwain bore heddiw.

"Mae disgwyl i'r ysgol ail agor bore fory," meddai llefarydd ar ran y sir.

Yn dilyn y ddamwain bu rhan o'r A40 ar gau gyda thraffig yn cael ei ddargyfeirio.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn teithio ar yn yr ardal rhwng 07.30 a 08.10 i gysylltu gyda nhw ar 101.