Damwain A470: Gyrrwr beic modur wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr beic modur a fuodd farw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 wedi cael ei enwi.
Roedd Brian Murray yn 55 oed ac yn dod o ardal Corwen.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan gydag anafiadau difrifol ond mi fuodd o farw.
Ychydig wedi deg o'r gloch fore Mawrth, cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i Faenan rhwng Glan Conwy a Llanrwst yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng beic modur a char.
Roedd y car a'r beic modur yn teithio tuag at Lan Conwy o Lanrwst.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhywun a welodd y ddamwain i gysylltu gyda nhw ar 101.