Tân Bangor: dyn wedi ymddangos yn y llys
- Cyhoeddwyd

Mi aeth tafarn y Three Crowns ym Mangor ar dân yn ystod oriau mân bore Sul
Mae dyn wedi bod yn y llys wedi i dafarn gael ei rhoi ar dân dros y penwythnos.
Cafodd Mark Parry, 35 oed, ei gyhuddo o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywydau a llosgi bwriadol heb ystyried a oedd yn peryglu bywyd.
Yn oriau mân bore Sul, Mawrth 30, aeth Tafarn y Three Crowns ym Mangor ar dân.
Cafodd chwech o bobl eu hanafu.
Mae'r darlithydd, Jason Robertshaw, 29 oed, mewn cyflwr "difrifol iawn ond sefydlog" yn Ysbyty'r Frenhines Elisabeth ym Mirmingham.
Cafodd anafiadau difrifol oherwydd bu raid iddo neidio allan o ffenest ar yr ail lawr.