Dynes wedi marw ar ôl cael ei thynnu o'r môr yn Llandudno
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dynes, a gafodd ei thynnu o'r môr ger Trwyn y Fuwch (Little Orme) yn Llandudno, wedi marw.
Ar hyn o bryd, mae swyddogion yn trin y farwolaeth fel un "anesboniadwy" ac yn awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn ardal Bae Penrhyn rhwng 9:00yb a 11:30yb ddydd Llun, Mawrth 31.
Derbyniodd y bad achub alwad am 11:29yb yn dweud bod dynes mewn trafferthion yn y môr.
Ar ôl i'w chorff gael ei dynnu o'r môr, cafodd ei chludo yn hofrennydd Awyrlu'r Fali i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, am driniaeth frys.
Ond cyhoeddwyd yn yr ysbyty bod y ddynes wedi marw.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod R046836.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol