Niwl yn effeithio ar deithwyr ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio gyrwyr i fod yn ofalus mewn rhannau o Gymru fore Mawrth, gan fod disgwyl niwl trwchus mewn mannau.
Mae yna oedi i nifer o awyrennau o Faes Awyr Caerdydd o achos y niwl. Mae teithiau awyr i Ynys Môn, Newcastle, Caeredin, Malaga a Dulyn wedi eu gohirio am gyfnod.
Mae'r rhybudd melyn am niwl wedi ei gyhoeddi ar gyfer canolbarth, de a gorllewin Cymru.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r niwl effeithio ar allu gyrwyr i weld yn bellach na 50m o'u blaenau mewn rhai ardaloedd.
Mae'n bosib y bydd 'na effaith ar draffig o achos y niwl ar adegau, ond mae disgwyl i'r sefyllfa wellai erbyn 9:00yb.
Daw rhybudd y Swyddfa Dywydd ar gyfer ardaloedd Powys, Sir Fynyw, Blaenau Gwent, Casnewydd, Torfaen, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili and Chaerdydd.
Mae'n bosib y bydd rhywfaint o niwl hefyd yn Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Ceredigion, Abertawe a Bro Morgannwg.