Colli 149 o swyddi yn ffatri Creative Foods yn Y Fflint

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni sy'n berchen ar ffatri Creative Foods yn Y Fflint wedi cyhoeddi y bydd y safle'n cau.

Mae'r ffatri'n cyflogi 149 o weithwyr ar Stad Ddiwydiannol Aber ac, yn ôl y perchnogion, cwmni Brakes, mae dirywiad yn y farchnad prydau parod wedi'u rhewi yn golygu nad yw'r busnes bellach yn hyfyw.

Dywed Brakes eu bod wedi cychwyn ar broses ymgynghori gyda'r gweithwyr ac mae disgwyl y bydd hynny wedi'i gwblhau erbyn mis Mai.

Mewn ymateb i'r newyddion, dywedodd Sandy Mewies, yr Aelod Cynulliad lleol: ''Rydw i wedi siarad hefo'r cwmni i ofyn am eglurhad dros eu bwriad i gau'r ffatri ac i weld a oes unrhyw gyfle i adolygu'r penderfyniad.

''Mae'r cwmni wedi dweud wrtha' i eu bod yn edrych ar opsiynau, gan gynnwys prynwr, ond fe fydd colli'r swyddi yn ergyd fawr i'r dref a'r ardal, ac rydw i wedi siarad gyda Gweinidog Busnes Llywodraeth Cymru, Edwina Hart, ar fyrder y bore 'ma a gofyn iddi wneud unrhyw beth y gall hi ei wneud i helpu'r gweithwyr.

''Rwyf hefyd wedi cysylltu gyda Chyngor Sir y Fflint i weld a oes unrhyw gymorth y gall y cyngor ei gynnig ac maen nhw'n edrych ar hyn.''

Fe ychwanegodd: ''Fe fydd hon yn ergyd drom i'r gweithwyr ac rwyf yn gobeithio fod popeth posib yn cael ei wneud i'w helpu.''