Cyflwyno Beibl Cymraeg gwreiddiol i Dŷ Mawr Wybrnant

  • Cyhoeddwyd
Tŷ Mawr WybrnantFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Bydd seremoni arbennig yn Nhŷ Mawr Wybrnant ddydd Gwener i ddathlu'r copi gwreiddiol

Mae copi gwreiddiol o'r Beibl Cymraeg yn cael ei gyflwyno mewn seremoni arbennig yn Nhŷ Mawr Wybrnant, Penmachno, ddydd Gwener.

Mae'r copi, oedd yn eiddo i Goleg Harlech, yn un o 20 sy'n bodoli.

Cafodd ei brynu gyda chymorth Cymdeithasau Meirionnydd a Dyffryn Clwyd o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae'r gymuned leol ac Archesgob Bangor yn rhan o ddathliad symbolaidd yn Nhŷ Mawr Wybrnant, man geni'r Esgob William Morgan, wnaeth gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg yn 1588.

Mae'r tŷ yn un o safleoedd mwya' anghysbell yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yng nghwm Penmachno ger Betws-y-Coed.

Cafodd William Morgan ei eni yno yn 1545, gyda'r ffermdy wedi ei leoli ar y prif lwybr porthmyn i Lundain.

"Roedd yn lle prysur yr adeg yna," meddai Gerwyn Edwards, Ceidwad Tŷ Mawr Wybrnant.

Mae rhywfaint o'r bwrlwm yn cael ei ailgreu ddydd Gwener, gyda phlant lleol yn canu emynau, ac Esgob Bangor a'r AS Dafydd Elis Thomas yn darllen o'r Beibl.

1,000 o gopïau

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Dim ond 20 copi gwreiddiol o'r Beibl Cymraeg sy'n bodoli erbyn hyn

Mewn ymdrech i leihau gafael yr Eglwys Gatholig ar gymdeithas, fe wnaeth Elisabeth y Cyntaf roi caniatâd i William Morgan gyfieithu'r Hen Destament a'r Testament Newydd o Roeg a Hebraeg i'r Gymraeg.

Naw mlynedd yn ddiweddarach, yn 1588, cafodd 1,000 o gopïau eu hargraffu - tua 800 o'r rhain yn cael eu rhannu rhwng eglwysi yng Nghymru. Am y tro cyntaf erioed, roedd modd cynnal gwasanaethau yn y Gymraeg.

Dim ond 20 copi o'r Beibl gwreiddiol sy'n dal yn bodoli erbyn hyn.

Roedd y copi sy'n cael ei gyflwyno ddydd Gwener wedi bod yn cael ei gadw mewn cwpwrdd yng Ngholeg Harlech am 20 mlynedd ac er ei fod dros 400 oed, mae'r ymddiriedolaeth yn dweud bod y clawdd lledr mewn cyflwr da iawn.

Dywedodd Rhys Evans, Rheolwr Gweithrediadau Eryri: "Rydym yn hynod o falch ein bod yn medru arddangos copi gwreiddiol o'r Beibl ym man geni'r dyn a oedd yn gyfrifol am ei gyfieithu.

"Mae'n hanfodol ein bod yn coffau'r etifeddiaeth amhrisiadwy yma".

Bydd y Beibl yn cael ei arddangos yn y tŷ, ynghyd â thros 100 o gopïau eraill mewn gwahanol ieithoedd megis Swahili, Thai ac Estonia - y rhan fwyaf wedi eu rhoi gan ymwelwyr.