Amddiffyn Mesur Cymru ar ail ddarlleniad yn San Steffan

  • Cyhoeddwyd
Y SeneddFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,
Mae disgwyl i'r Mesur fod yn ddeddf cyn Etholiad Cyffredinol 2015

Mae Ysgrifennydd Cymru David Jones wedi amddiffyn cynlluniau Llywodraeth San Steffan i ganiatáu gwleidyddion Bae Caerdydd i geisio am bwerau ychwanegol dros godi a gwario treth incwm.

Fe wnaeth ei sylwadau wrth i Fesur Cymru gael ei ail ddarlleniad yn San Steffan ddydd Llun.

Amlinellodd Mr Jones gynlluniau ar gyfer refferendwm ar ddatganoli treth incwm yn rhannol, petai'r cynulliad yn penderfynu cynnal pleidlais, ynghyd â chynlluniau ar gyfer cyflwyno treth incwm Cymreig petai'r bleidlais 'ie' yn fuddugol.

Dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith AS, fod Mr Jones wedi dweud mewn araith flaenorol fel aelod cynulliad: "Does gennym ni ddim pwerau i godi trethi - boed i'r sefyllfa honno barhau." Gofynnodd Mr Smith iddo "pa bryd oedd o wedi newid ei feddwl?"

Daeth gwrthwynebiad arall o feinciau Llafur gan Geraint Davies, a oedd am wybod beth fyddai'r Ysgrifennydd yn "ei ddweud wrth Faer Llundain, Boris Johnson, sydd nawr wedi gofyn am ddatganoli treth stamp i Lundain, fyddai'n rhoi £1.3bn iddo".

"Onid yw hyn yn siarter ar gyfer ehangu ar bob mathau o drethi cystadleuol ar draws gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig?" gofynnodd Mr Davies.

Fe wnaeth Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru, hefyd herio Ysgrifennydd Cymru, gan ddweud ei fod wedi "ffrwyno'r" corff deddfu Cymreig gyda "lockstep arfaethedig, nad oedd wedi'i gynnwys yn argymhellion Silk."

Roedd hyn yn cyfeirio at gynlluniau yn y mesur i gyfyngu ar y gallu i amrywio cyfradd unrhyw fand treth penodol heb newid y bandiau eraill hefyd.

'Cyn gynted â phosib'

Ond fe wnaeth Mr Jones amddiffyn y syniad o gynnal refferendwm, gan ddweud: "Hoffwn i'r cynulliad gynnal refferendwm cyn gynted ag sy'n bosib, a byddwn i'n bersonol yn cefnogi'r bleidlais ie mewn refferendwm o'r fath."

"Byddai'n gwneud Llywodraeth Cymru, a'r cynulliad, yn fwy atebol o lawer i'r pleidleiswyr."

Dywedodd Mr Jones wrth ASau fod "pawb yn gallu newid meddwl" ac wfftiodd honiadau ynglŷn â threthi cystadleuol, gan eu disgrifio fel "mater i Faer Llundain" sydd "ddim wir yn perthyn i'r drafodaeth heddiw".

Mae polisi trethu, gan eithrio treth cyngor, y tu allan i reolaeth y cynulliad ar hyn o bryd.

Mae'r mesur yn newid hynny, gan ddatganoli treth stamp, treth dir a thirlenwi, yn ogystal ag arwain y ffordd at refferendwm ar dreth incwm.