Biniau sbwriel: Beirniadu Cyngor Castell-nedd Port Talbot

  • Cyhoeddwyd
Biniau
Disgrifiad o’r llun,
Mae rhai cartrefi yn yr ardal wedi derbyn biniau llai

Mae Aelod Cynulliad wedi beirniadu cynllun cyngor sir i wario £730,000 ar finiau sbwriel llai er mwy annog pobl i ailgylchu mwy.

Yn ôl Peter Black, AC Gorllewin De Cymru, mae bwriad Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn un "gwbl wallgof."

Dywed y cyngor fod y syniad yn "synhwyrol" a bod cynllun peilot eisoes wedi gweld cynnydd yn y sbwriel sy'n cael ei ailgylchu.

Byddai maint y biniau yn y sir yn lleihau o 240 litr i 140 litr, gyda'r cynllun yn costio tua £730,000, a rhan o'r arian yn dod gan Lywodraeth Cymru.

Cynllun peilot

Mae'r llywodraeth wedi sefydlu cronfa o dros £11 miliwn i gefnogi cynlluniau cynghorau Cymru i annog mwy o ailgylchu dros y tair blynedd nesa'.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae lleihau maint biniau sbwriel yn un o'r argymhellion y dylai cynghorau eu hystyried er mwyn annog mwy o ailgylchu.

Nod y llywodraeth yw ailgylchu 70% o wastraff erbyn 2025, gan gyrraedd sefyllfa ble does dim gwastraff erbyn 2050.

Dywedodd Steve Phillips, prif weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot, fod y sir wedi gwario tua £150,000 ar y cynllun peilot ac mai £700,000 yw'r gost ar gyfer y rhaglen ailgylchu dros nifer o flynyddoedd.

"Rhai blynyddoedd yn ôl, o ran targedau ailgylchu, roeddem ymhlith y gwanaf o gynghorau Cymru.

"Roeddem yn wynebu'r posibilrwydd o gael ein dirwyo gan Lywodraeth Cymru.

"Nawr rydym wedi mabwysiadau strategaeth i fynd i'r afael â'r sefyllfa."

Dywed y Democrat Rhyddfrydol Mr Black fod y cynllun yn "wastraff arian" ac y gallai arwain at rai pobl yn cael gwared ar eu gwastraff yn anghyfreithlon.

"Mae'n wastraff llwyr o £730,000 o arian cyhoeddus ac mae'n dod ar adeg pan mae'r cyngor yn ystyried torri'n ôl ar nifer o wasanaethau pwysig," meddai.

"Yr unig beth fydd yn digwydd yw y bydd yna fwy o bobl yn cael gwared ar eu gwastraff yn anghyfreithlon a bydd hynny'n golygu gwario mwy o arian ar dacluso.

"Rwy'n derbyn fod angen mwy o ailgylchu. Ond mae'n ymddangos fod y cyngor yn ceisio dilyn polisi o orfodaeth yn unig, yn hytrach na annog."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol