Nigel Evans: portreadu fel cyfuniad o Wilde a Hill
- Cyhoeddwyd

Mae Aelod Seneddol wedi cyhuddo'r erlyniad o'i bortreadu fel cyfuniad o Oscar Wilde a Benny Hill.
Yn Llys y Goron Preston mae Nigel Evans, yn wreiddiol o Abertawe, wedi bod yn rhoi tystiolaeth am y trydydd diwrnod.
Mae'n wynebu dau gyhuddiad o ymosod anweddus, un o geisio ymosod yn rhywiol, pump o ymosod yn rhywiol ac un o dreisio.
Gofynnodd yr erlynydd Mark Heywood QC wrtho am yr hyn ddigwyddodd un noson yn 2009.
Y noson honno roedd cyn dirprwy lefarydd Tŷ'r Cyffredin wedi gorwedd gyda dyn ifanc ar y soffa yn ei dŷ.
Mae'r diffynnydd yn gwadu ei fod wedi ei gam-drin, gan ddweud iddo symud ei law at ei ganol ond dim byd mwy.
"Roeddwn i'n gweld sut ymateb yr oeddwn i'n ei gael. Roeddwn i yn mynegi diddordeb rhywiol ... dyna'r cyfan," meddai.
"Ddim yn fater mawr"
Fe glywodd y llys dystiolaeth Jennifer Dorries, merch yr Aelod Seneddol Ceidwadol Nadine Dorries.
Dywedodd fod un o'r dioddefwyr honedig wedi gwneud jôc o'r ffaith iddo ddeffro a bod breichiau'r diffynnydd amdano. "Doedd e ddim yn fater mawr, jest Nigel oedd e."
Yn ôl Miss Dorries, roedd y dyn yn cysgu ar soffa Mr Evans pan ddeffrodd ac roedd y gwleidydd yn ei gofleidio.
"Mi wnaeth e roi ei fraich ar fy mhrest," meddai'r dyn wrthi. "Wnes i jest symud hi i ffwrdd a dweud: 'woah, Nigel, na'."
Dywedodd hi wrth y llys fod y dyn wedi gwenu wrth ddweud yr hanes.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- 31 Mawrth 2014
- 27 Mawrth 2014
- 26 Mawrth 2014
- 25 Mawrth 2014