Cwest mam a'i babi o Droedyrhiw: rheithfarn agored

  • Cyhoeddwyd
Joanne Thomas a'i merch Harper
Disgrifiad o’r llun,
Mi glywodd y cwest fod Joanne Thomas wedi dechrau rhoi trefn ar ei bywyd

Mae rheithfarn agored wedi ei chofnodi mewn cwest wedi i fam a'i babi gael eu darganfod yn farw yn Nhroedyrhiw ger Merthyr Tudful.

Cafodd Joanne Thomas a'i merch bedwar mis oed Harper eu ffeindio yn eu tŷ yn haf y llynedd.

Dywedodd y crwner yn y gwrandawiad yn Aberdâr na allai fod yn siwr o'r hyn wnaeth achosi marwolaeth y ddwy.

Dywedodd y patholegydd Dr Stephen Leadbetter nad oedd canlyniadau'r post mortem yn rhoi unrhyw atebion am fod y cyrff wedi dirywio erbyn iddyn nhw gael eu darganfod.

"Beth alla i ddweud ynglŷn â dilyniant y marwolaethau neu os oedd yr achosion yn naturiol neu'n annaturiol? Ar sail wyddonol, sori, dydw i ddim yn gwybod yr atebion i'r cwestiynau."

Mi glywodd y crwner fod Harper wedi ei rhoi ar restr "risg" gan y gwasanaethau cymdeithasol am fod Miss Thomas mewn perthynas stormus ar y pryd.

Trefn ar ei bywyd

Ond mi gafodd y ferch fach ei symud o'r rhestr honno wedyn am fod y gwasanaethau cymdeithasol yn teimlo bod yna fwy o sefydlogrwydd ym mywyd y fam 27 oed.

Roedd ei theulu hefyd yn credu ei bod hi'n dechrau cael trefn ar ei bywyd.

Mi oedd Miss Thomas wedi bod yn fyfyrwraig ddisglair, gan ennill 12 gradd A yn eu harholiadau TGAU. Er hynny mi aeth ei bywyd ar gyfeiliorn oherwydd "mater personol".

Dywedodd y crwner ei fod yn gwybod am y manylion ond nad oedd am drafod hyn.

Clywodd y ccwest fod y gweithwr cymdeithasol, Jamie Robins, wedi gweld Miss Thomas am y tro olaf ym mis Mai. Ond mi gafodd wybod wedyn gan weithiwr iechyd nad oedd hi wedi mynd i apwyntiad oedd wedi ei drefnu gan y meddyg.

Er iddo drio cysylltu efo hi chafodd o ddim lwc. Dywedodd ei fod hefyd wedi trio cysylltu gyda'i theulu.

Cyn i'w chorff gael ei ddarganfod roedd Miss Thomas wedi bod yn teimlo'n sâl. Mi ddaeth ei mam Iris i aros gyda hi am gyfnod ym mis Mehefin a mynd adref ar ôl iddi wella.

Cafodd cyrff y fam a'i merch fach eu darganfod ym mis Gorffennaf ac roedd cyrff y ddwy wedi bod yn y tŷ am o leiaf wythnos.

Ddim yn amheus

Dangosodd profion meddygol fod ychydig o baracetemol yn ei gwaed a chyffur trin iselder. Roedd ganddi hanes o iselder ond dywedodd y crwner nad oedd tystiolaeth bod Joanne Thomas wedi lladd ei hun.

Yn ol y dystiolaeth, doedd amgylchiadau ei marwolaeth ddim yn rhai amheus ac mi oedd y gwasanaethau cymdeithasol wedi ymateb yn "briodol".

Wedi'r rheithfarn dywedodd chwaer Miss Thomas, Rachel Lewis, nad oedden nhw wedi cael atebion.

"Mae effeithiau marwolaeth Joanne a Harper wedi bod yn ysgytwol. Mi oedd Joanne yn fam dda oedd yn dechrau rhoi trefn ar ei bywyd. Mi oedd pethau yn dechrau gwella iddi ac wedyn mi fuodd hi farw mewn ffordd mor drasig.

"Mi wnaethon ni feddwl y bydden ni yn dod yma i'r cwest ac y bydden ni yn cael atebion i'r cwestiynau sydd wedi ein plagio am gyfnod mor hir. Ond dim ond mwy o gwestiynau sydd yna."