Cyfiawnder i gyn-weithwyr Visteon yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Bydd cyn-weithwyr ffatri Visteon yn Abertawe yn derbyn miliynau o bunnoedd o arian pensiwn wedi i gwmni ceir Ford daro bargen ag undeb.
Cyhoeddodd Ford eu bod wedi dod i gytundeb gydag undeb Unite sy'n cynrychioli'r cyn-weithwyr oedd wedi dechrau cymryd camau cyfreithiol.
Bum mlynedd yn ôl aeth Visteon UK i ddwylo'r gweinyddwyr ac ers hynny mae cyn-weithwyr wedi bod yn ymgyrchu am well taliadau.
Roedd y cwmni yn cyflogi dros 700 yn Abertawe ac mae nifer wedi honni bod gwerth eu pensiynau wedi gostwng yn sylweddol pan gafodd drosglwyddodd Ford y pensiynau i Visteon.
Dadl y gweithwyr oedd y dylai Ford fod wedi amddiffyn eu pensiynau yn well a bod 3,500 o weithwyr yn y Deyrnas Gyfun â bwlch o £350m yn eu cronfa ymddeoliad.
Roedd rhai wedi gweithio am 30 o flynyddoedd i Ford cyn i Visteon cymryd drosodd.
Osgoi achos llys
Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb: "Rydyn ni wedi dod i gytundeb gyda Ford ... bydd y setliad yn osgoi'r angen am a chost achos cyfreithiol yn erbyn Ford.
"Mae manylion y setliad yn gyfrinachol."
Mewn datganiad dywedodd Ford eu bod wedi dod i gytundeb gyda'r undeb i roi'r cynnig o flaen y cyn-weithwyr.
Dywedodd Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru De-Orllewin Cymru oedd wedi cefnogi'r ymgyrch, ar ei chyfrif Twitter: "Dwi'n teimlo mor emosiynol heddiw.
"Mae yna ddêl am filiynau o bunnoedd ar y bwrdd , a bydd pensiynwyr Visteon yn cyfarfod wythnos nesa' i'w drafod.
"Mae yna rywbeth i bob un o'r pensiynwyr yn y ddêl yma."
Llongyfarch
Ar lawr Tŷ'r Cyffredin fe wnaeth y Prif Weinidog, David Cameron, longyfarch yr undeb a'r Aelodau Seneddol oedd yn rhan o'r ymgyrch.
Geraint Davies, AS Gorllewin Abertawe, gododd y mater fel rhan o sesiwn holi wythnosol y prif weinidog.
Dywedodd Mr Cameron: "Mae hwn yn ddatblygiad da i'r pensiynwyr a phawb sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch.
"Dylwn ganmol aelodau ... sy'n gysylltiedig â hyn oherwydd eu gwaith gyda Ford er mwyn sicrhau cyfiawnder."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2010
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2014