'Erydu' rhaglenni teledu Saesneg
- Cyhoeddwyd

Mae cynnyrch teledu Saesneg y BBC yng Nghymru wedi cael ei "erydu" dros y blynyddoedd diweddar, yn ôl Cyfarwyddwr Cyffredinol y gorfforaeth, yr Arglwydd Hall.
Daeth sylwadau Mr Hall mewn araith arbennig yng Nghaerdydd i nodi hanner can mlwyddiant BBC Cymru.
Dywedodd fod rhaglenni Saesneg o Gymru ac i Gymru gan bob darlledwr "wedi bod ar i lawr ers bron ddegawd," gan ddweud mai'r canlyniad oedd nad oedd rhai agweddau ar fywyd cenedlaethol Cymru "yn cael eu darlunio'n llawn gan wasanaethau teledu'r BBC yng Nghymru".
Ers 2006-07 mae cyllideb y BBC ar gyfer rhaglenni teledu Saesneg wedi disgyn 18% o £24.6 miliwn i £20.2m yn 2012-13.
Dim ateb syml
Cyhoeddodd yr Arglwydd Hall yn ddiweddar y byddai'r BBC yn rhoi mwy o sylw i'r celfyddydau, a dywedodd bod penderfyniad BBC Cymru i ddelio gyda thoriadau ariannol drwy flaenoriaethu newyddion, materion cyfoes a gwleidyddiaeth wedi bod ar draul comedi, adloniant a diwylliant.
Cyfaddefodd yn ei araith nad oedd ateb syml i hyn gan nodi'r penderfyniad diweddar i ddiddymu sianel BBC Three fel esiampl o'r dewisiadau anodd sy'n wynebu'r gorfforaeth.
Rhaid i BBC Cymru ganfod arbedion o £10 miliwn erbyn 2017 fel rhan o gynllun Delivering Quality First ac, yn ddiweddar, fe gyhoeddwyd y byddai nifer o swyddi'n cael eu colli yn yr adrannau ffeithiol a cherddoriaeth.
Galwodd Mr Hall ar y gynulleidfa i "fod yn rhan o'r ddadl" am sut y dylai'r BBC "gryfhau ei gefnogaeth i hunanfynegiant cenedlaethol a rhanbarthol wrth baratoi'r ddadl am siartr newydd".
Mae Siartr Frenhinol y BBC, sy'n datgan pwrpas y corff a sut mae'n cael ei redeg, yn cael ei adolygu bob 10 mlynedd ac mae'r adolygiad nesaf yn 2017.
'Partneriaeth gref'
Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol fod llawer i'w ddathlu yn ystod hanner can mlynedd BBC Cymru, gan nodi bod y defnydd o'r BBC yng Nghymru yn 6.5 awr y dydd i bob cartref ar gyfartaledd - y lefel uchaf yn y DU.
Rhoddodd glod hefyd i'r bartneriaeth rhwng y BBC ac S4C a dweud ei bod "yn drawiadol sut y mae'r ddau ddarlledwr wedi sefydlu partneriaeth gref yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd".
Fore Iau bydd yr Arglwydd Hall yn ymddangos gerbron Aelodau Cynulliad ochr yn ochr â Chyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, wrth roi tystiolaeth i ymchwiliad sy'n ystyried dyfodol darlledu yng Nghymru.
Fe fydd Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, yr Arglwydd Patten, ac Ymddiriedolwr y BBC dros Gymru, Elan Closs Stephens, hefyd yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor.
Straeon perthnasol
- 21 Hydref 2013
- 4 Tachwedd 2011
- 22 Mehefin 2011