Pryder am drefn newydd gofal Powys
- Cyhoeddwyd

Mae pobl sy'n derbyn gofal yn y cartref ym Mhowys wedi dweud eu bod yn poeni am barhad gwasanaethau iaith Gymraeg yn y sir.
Bydd pedwar darparwr yn gyfrifol am y gwasanaethau ar ddiwedd y mis yn lle tua 20 cwmni sy'n gwneud y gwaith ar hyn o bryd.
Dim ond pythefnos yn ôl y cafodd defnyddwyr y gwasanaethau a'u teuluoedd wybod am y newid.
O dan reolau llywodraeth y DU gall gweithwyr gofal drosglwyddo i gyflogwr newydd o dan yr un amodau gwaith yn awtomatig, ond mae BBC Cymru wedi cadarnhau bod o leiaf 100 o staff un asiantaeth wedi gwrthod gwneud hynny.
Cyhoeddodd un o'r cwmnïau newydd, Abacare, eu bod yn chwilio am 150 o weithwyr tua mis yn ôl.
Ddydd Mawrth fe gynhaliodd y cwmni ddigwyddiad gyda chwmni arall - Reach - i recriwtio staff a cheisio perswadio gweithwyr presennol i drosglwyddo i gwmni newydd.
Mae rheolwr gyfarwyddwr Abacare, Peter Angelides, wedi dweud ei fod yn hyderus y bydd ganddyn nhw ddigon o weithwyr i ddarparu'r gofal ond mae'n cydnabod trafferthion canfod staff a darparu gofal yn un o ardaloedd mwyaf gwledig Cymru.
'Ofnadwy o bwysig'
Yn ôl arbenigwyr, fe ddylai defnyddio pedwar cwmni yn lle nifer fawr arbed arian i'r awdurdod lleol.
Ond maen nhw hefyd yn dweud bod cysondeb gofal, yn enwedig mewn achosion o ddementia, yn un o'r ffactorau pwysicaf i bobl hŷn.
Mae'r newidiadau i'r drefn gofal yn y cartref wedi codi pryderon i deulu Ian Davies, sydd yn byw yng Nghastell Caereinion ger Y Trallwng.
Gyda'i fam a'i frawd mae'n darparu gofal 24 awr i'w dad Newton Davies.
Mae'r teulu yn derbyn pedwar ymweliad gofal y dydd ond fe gafon nhw wyod am y newidiadau i'r drefn gofal yn y cartref gwta bythefnos yn ôl.
Dywedodd Mr Davies: ''Mae'r argymhellion hyn wedi rhoi pobl fregus, anabl, hen a sâl mewn cyflwr o banig, ac mae wedi ypsetio llawer o deuluoedd.
"Mae'n effeithio ar deuluoedd yn ogystal â cleientiaid. Mae cael dilyniant yn hanfodol. Rydym am i bethau barhau fel ag y maen nhw.
'Ffrindiau'
''Yn sicr, mae'n anodd iawn i deuluoedd ac mi wyddwn pa mor ypset fyddai Dad petai'n gweld gofalwyr gwahanol yn dod i mewn.
''Mae Cyngor Sir Powys wedi edrych ar ofal yn y gymuned o ran yr ochr ariannol. Ond mae gofal am bobl ac nid am arian.
''Rydym yn cysidro fod y gofalwyr sydd yn dod i mewn fel ffrindiau. Maen nhw'n rhan o'r teulu.''
Mae pryderon hefyd y bydd y newid yn golygu bod pobl sy'n dibynnu ar ofalwyr sy'n siarad Cymraeg yn diodde'.
Dywedodd Gareth Morgan, sy'n gynghorydd yn Llanidloes:
"Ma' pobl yr ardal yma yn disgwyl dau ingredient pwysig - yn gynta' pobl maen nhw'n nabod ac os ydan nhw'n siarad Cymraeg, pobl sy'n medru siarad Cymraeg - y ddau beth yna sy'n ofnadwy o bwysig.
"Pan 'dach chi mewn oedran, a pobl yn colli iechyd, mae mor bwysig bod chi'n ymwneud ac yn siarad ac yn cael gofal gan bobl 'dach chi'n nabod, pobl sy'n gallu siarad eich iaith gynta' chi, iaith eich mam, iaith 'dach chi yn naturiol gyda hi - a fel mae'r blynyddoedd yn mynd heibio mae'r gofyn am iaith yn fwy pwysig, ddwedwn i."
'Dyletswydd'
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal ymchwiliad safonau statudol mewn perthynas ag awdurdodau lleol, a dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price: "Yn unol â'u cynlluniau iaith statudol, mae dyletswydd ar gynghorau sir i sicrhau gwasanaeth Cymraeg i'r cyhoedd.
"Nid yw diwygio'r ffordd y caiff gofal ei ddarparu yn newid y ddyletswydd honno.
"Dylai'r cyngor sicrhau bod unrhyw gytundeb darparu gofal yn cynnwys y gofynion priodol ynghylch gwasanaeth Cymraeg.
"Yn sgil yr honiadau hyn, byddwn yn cysylltu â'r cyngor i drafod oblygiadau diwygio darpariaeth gofal ar wasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd."
'Cyfle i drafod'
Wrth ymateb i bryderon trigolion, dywedodd Cyngor Powys mai defnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd fyddai eu blaenoriaeth yn ystod y broses drosglwyddo.
Dywedodd llefarydd: "Mae defnyddwyr gwasanaethau wedi cael gwybod y gallai eu hasiantaeth ofal newid, ac maen nhw wedi cael cynnig y cyfle i drafod unrhyw bryderon gyda'r cyngor.
"Fe fyddan nhw hefyd yn cael gwybodaeth eto pan fydd unrhyw newid ar fin digwydd."
Ychwanegodd y llefarydd fod oedolion bregus yn y gorffennol yn ardaloedd mwyaf gwledig Powys yn gallu cael eu gweld gan weithwyr gofal gwahanol, ac mae'r cyngor wedi gosod targed yn y cytundeb newydd i geisio sicrhau bod pobl yn gweld yr un gweithwyr gofal yn gyson.
Straeon perthnasol
- 14 Mawrth 2014