BBC Cymru Fyw

Wrecsam 0-1 Grimsby

Published
Mae gobeithion prin Wrecsam o gyrraedd y gemau ail gyfle bron yn sicr ar ben wedi iddyn nhw golli eto ar eu tomen eu hunain yn erbyn Grimsby nos Fawrth.
Daeth unig gôl y gêm wedi dim ond 11 munud gyda Patrick McLaughlin yn rhwydo i'r ymwelwyr.
Ar ôl derbyn pas gan Ross Hannah fe darodd ergyd o'r tu allan i'r cwrt cosbi i gornel isa'r rhwyd.
Fe gafodd y ddau dîm gyfleoedd, gyda Jay Harris a Johnny Hunt yn methu gyda chynigion yn yr hanner cyntaf.
Ond Grimsby gafodd mwyafrif y meddiant gan adael gôl Wrecsam o dan warchae am gyfnodau hir wedi'r egwyl.
Daeth cyfleoedd wedyn i Joe Anyinsah - a darodd ei ergyd dros y trawst - a Joe Clarke a beniodd heibio'r postyn o chwe llath.
Dim buddugoliaeth i Kevin Wilkin fel rheolwr Wrecsam hyd yma felly, ond fe ddangosodd ei dîm newydd cryn dipyn o ysbryd yn erbyn un o dimau gorau'r adran - mae Grimsby bellach yn chwech yn y tabl wedi'r fuddugoliaeth yma.

Straeon perthnasol

  • Wrecsam 0-0 Kidderminster