Seintiau o fewn trwch blewyn
- Cyhoeddwyd

Y Seintiau Newydd 3-1 Y Drenewydd
Mae'r Seintiau Newydd o fewn trwch blewyn i gipio pencampwriaeth Uwchgynghrair Corbett Sports Cymru unwaith eto yn dilyn buddugoliaeth arall yn erbyn Y Drenewydd nos Fawrth.
Dim ond Airbus UK Brychdyn all ddod yn gyfartal â chyfanswm pwyntiau'r Seintiau bellach, ond mae gwahaniaeth goliau'r pencampwyr cystal fel y byddai angen gwyrth i'w pasio.
Roedd Y Drenewydd yn benderfynol o ddifetha'r parti yng Nghroesoswallt, a'r ymwelwyr aeth ar y blaen wrth i Luke Boundford sgorio wedi 26 munud.
Ond roedd Y Seintiau'n gyfartal o fewn dim gyda Greg Draper yn rhwydo i unioni'r sgor wedi 32 munud.
Mae tîm ifanc Y Drenewydd wedi cael tymor calonogol dros ben, ac fe wnaethon nhw ddal eu tir tan yr egwyl.
Ond o fewn pedwar munud i ddechrau'r ail gyfnod roedd y tîm cartref wedi ailafael yn y fantais gyda Connell Rawlinson yn sgorio i'w rhoi ar y blaen.
Gyda dau funud yn weddill fe ychwanegodd Draper ei ail yn y gêm i sicrhau'r pwyntiau llawn i'r Seintiau.
Mae gwahaniaeth goliau'r Seintiau bellach yn +57, ac Airbus ar +23. Fe fyddai'n rhaid i'r tîm o Frychdyn ennill yr holl gemau sy'n weddill gan sgorio o leia deg ymhob gêm - a gobeithio bod y Seintiau'n colli'r pedair gêm sydd ganddyn nhw ar ôl.
Teg dweud na fyddai cefnogwr mwyaf pybyr Airbus yn dal ei wynt am y dathliadau.