Llygredd aer yn bosib' mewn mannau ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd
Llygredd yn yr awyr
Disgrifiad o’r llun,
Mae llygredd yn yr awyr yn gymysgedd o lygredd traffig a diwydiannau.

Mae'n bosib' y bydd lefelau uwch o lygredd yn yr awyr ddydd Mercher wedi lefelau o lygredd aer uchel mewn rhai rhannau o Loegr ddydd Mawrth.

Yn ôl DEFRA, adran amgylcheddol Llywodraeth San Steffan, mae angen i bobl mewn rhai ardaloedd yng Nghymru a Lloegr baratoi ar gyfer lefelau uchel neu ganolig o lygredd yn yr awyr yn ystod y dydd.

Mae disgwyl i'r llygredd - sydd yn gymysgedd o lygredd carbon lleol ac Ewropeaidd, yn ogystal â llwch o'r Sahara - symud ar draws rhannau o dde a chanolbarth Cymru, ac ar hyd glannau'r gogledd am gyfnod.

Mae pobl sydd yn dioddef problemau iechyd y galon neu'r ysgyfaint wedi eu rhybuddio i beidio â gwneud unrhyw ymarfer corff egniol yn yr awyr agored yn yr ardaloedd fydd yn cael eu heffeithio.

Mesurydd llygredd awyr

Dywedodd DEFRA fod lefelau o lygredd aer wedi cyrraedd graddfa 10 ar eu mesurydd llygredd aer yn Norfolk ddydd Mawrth. Mae lefel 1 ar eu mesurydd yn golygu risg ''isel'' o lygredd aer, a 10 yn golygu lefelau ''uchel iawn'' o lygredd.

Mae disgwyl y bydd llygredd aer yn cyrraedd 5 neu 6.

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, llygredd aer yw'r risg amgylcheddol mwyaf i iechyd - ac mae wedi ei gysylltu gyda 7m o farwolaethau yn flynyddol. Mae'r mwyafrif o'r marwolaethau hyn yn gysylltiedig â salwch yn ymwneud a'r galon a'r ysgyfaint.

Caiff llygredd aer ei achosi gan lygredd traffig a diwydiannau. Mae'r lefelau diweddaraf wedi cynyddu o achos fod llwch o ddiffeithdir y Sahara yn Affrica wedi cael ei chwythu i Brydain gan y gwynt.