Banc yn rhoi hwb o £45m i gyfleusterau Prifysgol Bangor
- Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau Prifysgol Bangor i fuddsoddi yn y campws ac uwchraddio cyfleusterau dysgu wedi derbyn £45m gan Fanc Buddsoddi Ewrop.
Hwn yw banc yr Undeb Ewropeaidd ac mae'n ariannu benthyciadau tymor hir i brosiectau ar hyd a lled Ewrop.
Bydd yr arian yn hwb i gynlluniau ehangu a moderneiddio'r brifysgol.
'Buddsoddiad sylweddol'
Yn ôl Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes: "Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol a fydd yn ein galluogi i gyfoethogi ymhellach y profiad rhagorol rydym yn ei roi i'n myfyrwyr. Mae gennym strategaeth gyffrous ac uchelgeisiol i'n hystâd ac mae eisoes ar y gweill.
''Mae'n cynnwys adeilad newydd Pontio, fydd yn agor ym mis Medi, Canolfan Fôr newydd Cymru ym Mhorthaethwy, neuaddau preswyl o'r safon uchaf, gwell cyfleusterau chwaraeon ac adnewyddu prif adeilad hanesyddol y Brifysgol.
'' Yn ogystal, mae gennym gynlluniau mawr i fuddsoddi ymhellach yn ein cyfleusterau gwyddoniaeth ar Ffordd Deiniol a Stryd y Deon yn ogystal â gwneud gwelliannau i Safle'r Normal.
"Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i symud ymlaen gyda'r projectau pwysig yma.''
'Myfyrwyr yn elwa'
Dywedodd Huw Lewis, Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru: "Mae'r buddsoddiad sylweddol yma'n newyddion gwych i Brifysgol Bangor ac i Ogledd Cymru. Mae'n arwydd gwirioneddol o hyder yn y brifysgol a bydd yn cyfrannu'n helaeth at sicrhau y bydd myfyrwyr yn elwa ar y cyfleusterau academaidd gorau un am lawer blwyddyn i ddod.
''Rydym eisiau gweld sefydliadau addysg uUwch bywiog a chwbl gyfoes yma yng Nghymru a bydd y buddsoddiad yma'n sicr yn ein helpu i gyflawni'r nod hwn."
Bydd y rhaglen fuddsoddi yn cael ei chefnogi gan y banc, adnoddau'r brifysgol a chyllid Llywodraeth Cymru.
'Mannau dysgu newydd'
Dywedodd Jonathan Taylor, is-lywydd y banc: "Bydd y rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol yn gwarchod adeiladau hanesyddol, creu mannau dysgu cymdeithasol newydd a darparu'r cyfleusterau addysgu diweddaraf i adrannau allweddol yn y brifysgol.
''Ein benthyciad sylweddol, sydd bron hanner cost buddsoddiad y project, yw'r lefel uchaf o gefnogaeth y gall y banc ei rhoi ac mae'n tystio i uchelgais y rhaglen a'r manteision fydd yn deillio ohoni ...
''Bydd y cynllun nid yn unig yn creu a diogelu swyddi adeiladu tra bydd yn cael ei weithredu ond bydd hefyd yn arwain at gyfleoedd busnes ac ymchwil newydd ar draws Cymru fydd yn adeiladu ar arbenigedd bydenwog y Brifysgol ym maes Gwyddorau Eigion.''
Bydd arbed ynni yn allweddol, yn ôl Prifysgol Bangor, a bydd yr adeiladau newydd yn cyrraedd safonau Ewropeaidd yn y maes hwnnw. Bydd y prosiect hefyd yn helpu adnewyddu adeiladau hanesyddol a rhestredig y mae'r brifysgol yn eu defnyddio.