Crwner yn agor a gohirio cwest Nida Naseer
- Cyhoeddwyd

Cafodd cwest ei agor a'i ohirio i farwolaeth Nida Naseer o Gasnewydd.
Dywedodd Crwner Gwent, David T Bowen, fod achos ei marwolaeth heb ei esbonio hyd yn hyn.
Aeth Nida Naseer ar goll o'i chartref yn ardal Pillgwenlly, Casnewydd, ar Ragfyr 28.
Cafodd ei chorff ei ddarganfod ger West Nash Road yng ngwlypdiroedd Casnewydd ar Fawrth 27 wedi i'r heddlu dderbyn galwad gan weithwyr.
Cafodd y cwest ei ohirio am chwe wythnos.
Yn ôl y crwner: ''Er yr anawsterau amlwg sydd wedi codi yn yr achos hwn, mae'n amlwg fod angen gwneud ymholiadau pellach cyn y cwest.''
''Rwyf yn awyddus i sicrhau yn nad ydi dioddefaint y teulu yn cael ei ymestyn. Fe fyddwn yn galw ar unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd gyda gwybodaeth am yr achos yma ac sydd heb ddod ymlaen i gysylltu gyda Heddlu Gwent.''