Honiadau fod dynes agoraffobig wedi teithio'r byd
- Cyhoeddwyd

Mae Llys y Goron Merthyr wedi clywed honiadau fod menyw wedi hawlio degau o filoedd o bunoedd o fudd-daliadau tra'n gweithio yn y diwydiant twristiaeth yn Ne America.
Roedd Tracy Johnson wedi dweud ei bod yn dioddef o gyflwr agoraffobia, ofn mannau agored, a'i bod heb adael y DU ers blynyddoedd.
Ond yn ôl yr erlyniad, fe fu hi'n byw ''bywyd moethus''.
Fe honnwyd bod y wraig 52 oed o Frome yng Ngwlad yr Haf wedi newid ei chyfeiriad a defnyddio cyfeiriad ei mam yn Llanfair ym Muallt er mwyn hawlio budd-daliadau.
Mae Ms Johnson yn gwadu'r cyhuddiadau o dwyll, gwneud datganiad ffug yn anonest, a methu yn anonest â datgan newidiadau yn ei sefyllfa rhwng Ionawr 2008 a Gorffennaf 2012. Mae hi'n gwadu 13 cyhuddiad i gyd.
Clywodd y llys ei bod wedi derbyn £50,000 o fudd-daliadau anabledd tra'n rhedeg cwmni teithio yn yr Ariannin.
Dywedodd Joanna James ar ran yr erlyniad: ''Roedd Tracy Johnson yn byw'r math o fywyd y byddai trethdalwyr sy'n gweithio'n galed ond yn gallu breuddwydio amdano.
''Tra oedd gweithwyr yn mynd allan i wneud diwrnod caled o waith, roedd hi'n siopa yn Efrog Newydd neu'n treulio ambell ddiwrnod ym Madrid.''
Dywedodd yr erlyniad fod y diffynnydd wedi penderfynu defnyddio arian trethdalwyr er mwyn mynd ar daith am bedwar mis o amgylch India yn 2012.
Ond pan aeth yr heddlu i archwilio ei chartref fe ddaethon nhw o hyd i dalebau teithio, cadarnhad arhosiad mewn gwestai ac roedd tagiau teithio yn dal ar ei bagiau. Daeth yr heddlu o hyd i ddyddiadur ei thaith i'r India hefyd.
Yn ôl ym Mhrydain roedd honiadau ei bod yn hawlio budd-daliadau, gan ddweud ei bod angen cefnogaeth gorfforol ac emosiynol.
Yn ôl yr erlyniad: ''Fe ddywedodd nad oedd modd iddi fyw bywyd cyffredin o ddydd i ddydd am ei bod yn agoraffobig, yn dioddef o iselder, pryder, llewyg a PTSD.
''Fe ddywedodd ei bod yn baglu ac yn disgyn yn gyson ac yn methu cerdded mwy na pum metr heb gymorth.
''Dywedodd ei bod mor wael fel nad oedd modd iddi fyw yn ei chartref ei hun.
''Ond tra oedd hi'n llenwi ceisiadau budd-daliadau yn dweud wrth yr awdurdodau ei bod yn sâl, fe roedd hi'n teithio'r byd ar arian trethdalwyr.''
Cafodd Ms Johnson ei harestio ar ôl i rywun dienw gysylltu gyda'r awdurdodau am ei theithiau honedig tramor.
Mae'r achos yn parhau.