A fydd Cymru'n dathlu yn Aintree?
- Cyhoeddwyd

Yn 1905, Alf Common oedd y pêl-droediwr cyntaf i gostio £1,000, Arthur Balfour oedd y Prif Weinidog Ceidwadol ac fe gafodd aspirin ei werthu yn y DU am y tro cyntaf.
Dyna'r tro diwethaf hefyd i geffyl oedd wedi ei hyfforddi yng Nghymru ennill ras enwog y Grand National.
Eleni mae Rebecca Curtis yn gobeithio newid yr hanes yna, gan mai Teaforthree - sy'n cael ei hyfforddi yn stablau Ms Curtis yn Fferm Fforest ger Trefdraeth - yw'r ffefryn.
Gorffennodd Teaforthree yn drydydd yn Aintree y llynedd gyda Nick Scholfield yn ei farchogaeth, ac mae'r un bartneriaeth yn gobeithio gwella ar hynny y tro hwn.
'Angen lwc'
Ond dyw bod yn ffefryn ddim yn gwarantu llwyddiant yn y Grand National - dros y 100 mlynedd diwethaf dim ond 11 o ffefrynnau sydd wedi mynd ymlaen i ennill y ras er bod pump o'r rhieni wedi digwydd dros yr 20 mlynedd diwethaf - ac mae Rebecca Curtis yn gwybod bod angen mwy na hynny.
"Fe fyddai'n anhygoel," meddai, "oherwydd dyma un o'r rasys yna y mae pawb eisiau'i hennill - pob joci, pob hyfforddwr a phob perchennog.
"Dyw hi ddim yn fater o garlamu o gwmpas ac ennill y ras. Mae'r ras galed iawn, iawn ac mae angen lot o lwc.
"Mae cymaint o straeon o anlwc - fe all ceffyl gael ei dynnu lawr gan geffyl arall pan mae'n mynd yn dda, ac mae nifer o bethau eraill all fynd o'i le."
Cymry ymhobman
Pris Teaforthree ar hyn o bryd yw 8/1 gydag ambell fwci, ond fe allai'r her fwyaf ddod o blith yr ail ffefrynnau. 14/1 yw'r pris am dri cheffyl ac mae gan ddau ohonyn nhw gysylltiadau Cymreig yn ogystal.
Y joci o Gymru, Sam Twiston Davies, yw marchog Tidal Bay, ac mae nifer yn credu y byddai yntau ymhlith y ceffylau blaen.
Yno hefyd mae Monbeg Dude, ac un o gydberchnogion y ceffyl yw maswr Bryste - gynt o'r Gleision a Chymru - Nicky Robinson.
Dywedodd e wrth Newyddion Ar-lein bod hanes prynu'r ceffyl yn ddigon doniol, ond bod y broses wedi talu ar ei ganfed.
"Roedd tro ohono ni'n chwarae i Gaerloyw oedd â diddordeb mewn rasio ceffylau, sef Mike Tyndall, James Simpson-Daniel a fi, ac fe aeth Mike i ocsiwn geffylau.
"Fe 'naeth e bid (o £12,000) a ga'th e dipyn o sioc achos 'naeth neb bidio yn ei erbyn e. Roedd e ar y ffôn wedyn yn trio cael y gweddill ohono ni i roi arian iddo fe.
"Fydd pobl eraill sy' wedi prynu ceffylau yn wyllt yn clywed hwn achos maen nhw'n costio lot mwy fel arfer, ond mae e wedi ennill lot o rasys a lot o arian chware teg."
Er na fydd Nicky yn chwarae i Fryste nos Wener, fe fydd yn y gêm i gefnogi'i gyd-chwaraewyr ac yna'n teithio'n syth i Lerpwl.
"Mae teulu'r wraig yn byw yn Lerpwl felly ni'n aros gyda nhw. Mae'r bois i gyd yn nerfus ac mae'n siŵr gewn ni ddiod neu ddau i dawelu'r nerfau cyn y ras, ond mae'n gyffrous iawn meddwl bod cyfle gydag e.
"Mae Paul Carberry yn y cyfrwy - sydd wedi ennill y ras (Grand National) o'r blaen a ma' hyfforddwr gwych gyda ni yn Michael Scudamore so ni gyd yn croesi'n bysedd."
Tri arall
Rhaid peidio anghofio tri cheffyl arall y bydd cefnogaeth iddyn nhw yng Nghymru hefyd.
Mountainous oedd enillydd Grand National Cymru ar gwrs Cas-gwent ym mis Rhagfyr y llynedd, a'i berchennog yntau yw cadeirydd cwrs rasio Ffos Las, Dai Walters. Mae e hefyd yn cael ei hyfforddi yng Nghymru gan Richard Lee yn ei stablau yn Llanandras ym Mhowys.
Fe allai'r hyfforddwr Tim Vaughan, o'r Bontfaen, gael dau geffyl yn y ras. Un sydd ganddo ar hyn o bryd, sef Golan Way, ond mae ganddo geffyl arall (Saint Are) ar y rhestr wrth gefn pe bai ceffylau eraill yn tynnu'n ôl cyn dydd Sadwrn.
A beth am Evan Williams wedyn - un o hyfforddwyr enwocaf Cymru sydd wedi gwneud yn dda yn Aintree yn y gorffennol?
Un ceffyl sydd ganddo yn y ras fawr eleni, sef One In A Milan. Wrth edrych ar y pris o 66/1, ychydig iawn fyddai'n rhoi gobaith iddo, ond cofiwch mai dyna oedd pris Auroras Encore, sef enillydd y Grand National yn 2013!
Bydd y ras fawr yn dechrau am 4:15yh ddydd Sadwrn - dyna pryd y cawn ni'r atebion.