Gwyddonwyr Caerdydd yn arwain ar astudiaeth Alzheimer's

  • Cyhoeddwyd
Astudio Alzheimers
Disgrifiad o’r llun,
Yr Athro Julie Williams o Prifysgol Caerdydd sy'n arwain yr astudiaeth ar Alzheimer's

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd am arwain astudiaeth fydd yn edrych ar ddylanwad geneteg a'r ffordd o fyw, yn natblygiad Alzheimer's.

Bydd y prosiect £6 miliwn yn edrych ar y berthynas rhwng geneteg a ffordd o fyw 1,000,000 o bobl ar draws y byd.

Pwrpas yr astudiaeth ydi darganfod pwy sydd â risg o ddatblygu'r salwch.

Rhan o'r gwaith fydd dod a'r holl astudiaethau eraill o Alzheimer's sydd yn digwydd ar hyd a lled y byd at ei gilydd.

Dod a gwaith ynghyd

Meddai Yr Athro Julie Williams, o Ysgol Meddyginiaeth Caerdydd, sy'n arwain yr astudiaeth:

"Am amser maith mae gwyddonwyr sydd yn astudio'r salwch wedi bod yn gweithio ar wahân.

"Pwrpas y gwaith yma yw dod a'r gwaith ymchwil a gwyddonwyr sydd yn edrych ar y linc geneteg a'r rhai sydd yn astudio'r linc ffordd o fyw at ei gilydd.

"Yn y pendraw y gobaith yw ein bod yn gallu creu triniaeth sy'n bersonol i'r claf, ac yn well byth, un sy'n gwrthweithio'r salwch yn gyfan gwbl."

Yn ôl Yr Athro Williams bydd yr hyn sy'n cael ei ddysgu yn yr astudiaeth yn galluogi oes newydd o drin y salwch.

Ychwanegodd: "Mae'n bosib yn y dyfodol bydd doctoriaid yn gallu cynnal arbrofion i weld os oes gan berson risg i ddatblygu Alzheimer's.

"Yna bydd cyfuniad o therapi geneteg, meddyginiaeth a newidiadau i'r ffordd o fyw yn gallu cael eu gwneud, er mwyn lleihau'r risg."

Oherwydd nifer y bobl fydd yn rhan o'r astudiaeth dywedodd Yr Athro Williams fydd y data yn gryfach a mwy cywir.

Mae elusen Alzheimer's Research UK yn gefnogol o'r astudiaeth.

Cefnogi

Dywedodd Dr Eric Karran, cyfarwyddwr ymchwil Alzheimer's Research UK: "Mae'n bwysig cynnwys beth sy'n cael ei ddysgu gan nifer o wahanol astudiaethau er mwyn cael gwell dealltwriaeth o Alzheimer's.

"Gyda dros 500,000 o bobl trwy'r DU yn byw gyda'r salwch, mae gwir angen darganfod triniaeth sydd yn gallu gwneud gwahaniaeth."

Alzheimer's yw'r math fwyaf cyffredin o ddementia, ac mae 5% o'r achosion yn digwydd i bobl sydd yn iau na 65 oed.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol