Pennaeth hosbis yn gwadu camymddwyn
- Cyhoeddwyd

Mae cyfarwyddwr gofal Hosbis plant Tŷ Hafan ym Mro Morgannwg wedi gwadu cyhuddiadau o gamymddygiad proffesiynol yn ymwneud â gofal plentyn.
Mae Jayne Saunders yn wynebu tri chyhuddiad yn ymwneud â digwyddiadau honedig rhwng Mawrth 18 ac Ebrill 22, 2008.
Mae'r honiadau yn ymwneud â phwy wnaeth gynnal archwiliad o "Blentyn S" ac a wnaeth y plentyn roi caniatâd.
Honnir fod Ms Saunders wedi methu a sicrhau mai dim ond nyrs gymwysiedig fyddai'n cynnal archwiliad.
Honnir hefyd nad oedd Ms Saunders wedi rhoi digon o ystyriaeth i deimladau a safbwyntiau rhieni y ferch 14 oed oedd yn dioddef o leukaemia.
Clywodd gwrandawiad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yng Nghaerdydd gan Ms Saunders fod y plentyn ond yn cael aros yn yr hosbis pe bai archwiliadau rheolaidd o'r plentyn yn digwydd.
Mae Ms Saunders yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei herbyn, ac mae disgwyl i'r gwrandawiad bara tan Ebrill 29.