Cynghorydd Jeff Evans yn gadael grŵp Annibynnol Môn

  • Cyhoeddwyd
Jeff Evans
Disgrifiad o’r llun,
Mae' r cynghorydd Jeff Evans, wedi gadael grŵp Annibynnol Cyngor Sir Ynys Môn

Mae cynghorydd arall wedi gadael y grŵp Annibynnol sy'n rhan o'r glymblaid sy'n rheoli Cyngor Sir Ynys Môn.

Dywedodd y cynghorydd Jeff Evans ei fod wedi gadael y grŵp Annibynnol oherwydd nad oedd "yn hapus" gyda nifer o bethau.

Ond mae Arweinydd y Cyngor, y cynghorydd Ieuan Williams, wedi dweud wrth y BBC fod y cynghorydd Evans wedi gadael y grŵp ar ôl clywed na fyddai'n cael cymryd drosodd fel cadeirydd y cyngor ym mis Mai.

Dywedodd y cynghorydd Williams y byddai'r grŵp Annibynnol yn cefnogi cais gan un o gynghorwyr grŵp Plaid Cymru ar gyfer swydd y cadeirydd.

Plaid Cymru, yw'r wrthblaid ar y cyngor a hefyd y grŵp mwyaf, gyda 12 o gynghorwyr.

Clymblaid rhwng y grŵp Annibynnol ( 11 o gynghorwyr) a Llafur ( dau o gynghorwyr) sy'n rheoli'r cyngor.

Mae yna bump o aelodau sydd heb ymuno gydag unrhyw grŵp, o'r rhain mae'r cynghorydd Aled Morris Jones yn cyd-weithio gyda chlymblaid y grŵp Annibynnol a Llafur.

Ers etholiadau'r cyngor ym Mai 2013 mae tri o gynghorwyr wedi gadael y glymblaid.

Mae cynghorydd Evans, sydd yn gynghorydd ward Ynys Cybi yn dilyn y cynghorydd Peter Rogers, o'r grŵp Annibynnol a'r cynghorydd Raymond Jones a adawodd Llafur i eistedd fel aelodau heb blaid.

Dim yn poeni

Dywedodd y cynghorydd Williams ei fod yn siomedig gyda phenderfyniad y cynghorydd Evans i adael.

"Dwi'n siomedig bod Jeff wedi gadael ond roedd wedi gofyn i'r grŵp ei gefnogi i fod yn gadeirydd nesaf y Cyngor.

"Yn y gorffennol mae'r Cyngor wedi cael ei feirniadu am yr agwedd "winner takes all" gyda'r grŵp mewn grym yn rheoli'r portffolios a'r cadeiriau.

"Mae rhaid i ni symud i ffwrdd oddi wrth hyn, mae amseroedd yn newid ac rydym wedi cynnig cefnogi unrhyw gynghorydd o grŵp Plaid Cymru sydd yn cael ei enwebu i'r rôl.

"Fel arfer mae'r cynghorydd sydd yn cael ei wahodd i fod yn Gadeirydd yn un sydd wedi gwasanaethu am flynyddoedd.

"Mae Jeff wedi bod yn gynghorydd am lai na blwyddyn."

'Gwir annibynnol'

Mae'r cynghorydd Evans wedi bod yn Faer ar dref Caergybi sawl gwaith dros yr 20 mlynedd diwethaf, ond doedd dim yn barod i ateb cwestiynau ar yr honiad ei fod wedi gwneud cais i fod yn gadeirydd y cyngor.

Meddai: "Dwi wedi gadael y grŵp oherwydd doeddwn ddim yn hapus gyda sawl agwedd o waith y cyngor dros y flwyddyn.

"Dydw i ddim wedi bod yn hapus efo'r sefyllfa, a dwi'n mynd yn ôl at fy ngwreiddiau fel cynghorydd gwirioneddol annibynnol i wasanaethu pobl ward Ynys Cybi sydd wedi fy ethol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol