Dim arian i godi pont dros dro yn lle Pont Briwet

  • Cyhoeddwyd
Tagfeydd Bont Briwet
Disgrifiad o’r llun,
Tagfeydd ar yr A496 oherwydd cau Pont Briwet

Does yna ddim arian i adeiladu pont dros dro dros Afon Dwyryd tra mae Pont Briwet ar gau - dyna ddywedodd llefarydd o Gyngor Gwynedd mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mhenrhyndeudraeth nos Fercher.

Yn wreiddiol y bwriad oedd rhoi pont dros dro, ond dywedodd y llefarydd bod yr awdurdod wedi gwario'r arian i "sicrhau diogelwch" gyrwyr sydd yn defnyddio dargyfeiriad ffordd sydd mewn grym.

Ar hyn o bryd mae gyrwyr yn cael eu dargyfeirio am wyth milltir ar hyd yr A496 trwy Faentwrog tra bod y bont ar gau.

Oherwydd bod rhannau o'r ffordd yma yn beryglus ac yn gul mae Cyngor Gwynedd wedi sefydlu system gonfoi am ddarn 1.4 milltir o'r ffordd.

Anfodlonrwydd

Yn y cyfarfod cyhoeddus ym Mhenrhyndeudraeth nos Fercher roedd nifer o fusnesau a thrigolion lleol wedi mynd i fynegi eu hanfodlonrwydd am y sefyllfa.

Maen nhw'n dweud bod y sefyllfa fel ag y mae hi yn niweidio masnach yn yr ardal.

Mae pennaeth Ysgol Ardudwy yn Harlech, Tudur Williams, hefyd wedi dweud ei fod yn siomedig iawn gyda'r penderfyniad i beidio codi pont dros dro, gan ddweud ar y pryd:

"Mae o am effeithio'r economi leol achos mae rhai o'r bwytai wedi dweud yn barod eu bod nhw'n llai prysur, gan nad ydy pobl yn dod draw o Borthmadog, na'r ffordd arall.

"Mae'n debyg fod yr ardal wedi cael ei gadael allan.

Ym mis Ionawr, cyhoeddodd Cyngor Gwynedd eu bod yn cau'r bont 154 blwydd oed am byth.

Ar hyn o bryd mae gwerth £20m o waith ar droed i adeiladu pont newydd ar gyfer trenau a cheir.

Disgwylir bydd y bont "Briwet newydd" wedi ei chwblhau erbyn y Nadolig, sy'n golygu bydd y sefyllfa bresennol yn parhau dros fisoedd prysur yr haf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol