Rhybudd am lygredd aer uchel yn rhannau dwyreiniol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Llygredd aer
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r smotiau glaw budr yn dangos bod tywod o anialwch y Sahara wedi ei chwythu yma ac yn achosi'r llygredd aer

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio pobl am lefelau uchel o lygredd aer sydd yn effeithio rhannau o ogledd-ddwyrain a de-ddwyrain Cymru.

Eisoes mae Cyngor Sir Y Fflint wedi cynghori ysgolion y sir i gadw golwg ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ar Lannau Dyfrdwy mae disgwyl bydd y llygredd yn cyrraedd lefelau saith ac wyth sydd yn "uchel" yn ôl DEFRA, adran amgylcheddol Llywodraeth San Steffan, gyda lefel 10 yn golygu lefel llygredd "uchel iawn."

Caiff llygredd aer ei achosi gan gyfuniad o lygredd traffig a diwydiannau, ac yn yr achos yma gwyntoedd ysgafn o'r de-ddwyrain sy'n cludo tywod o'r Sahara ar draws rhannau o Brydain.

Llai o ymarfer corff

Dywedodd Huw Brunt, sy'n ymgynghorydd ar Diogelwch Iechyd Amgylcheddol i Iechyd Cyhoeddus Cymru, gall y llygredd aer effeithio ar bobl sy'n dioddef problemau iechyd.

Meddai: "Ar adegau pan mae'r lefelau yn uchel, dylai oedolion a phlant sydd â phroblemau iechyd yr ysgyfaint neu'r galon leihau unrhyw ymarfer corff egnïol yn enwedig os ydynt yn teimlo symptomau.

"Bydd pobl gyda'r fogfa yn gweld eu bod yn gorfod defnyddio peiriant anadlydd yn fwy aml.

"Dylai unrhyw berson sydd yn teimlo'n anghysurus gyda'u llygaid yn brifo, tagu neu ddolur gwddw ystyried cwtogi unrhyw weithgaredd, yn enwedig os ydyn nhw tu allan."

Dywedodd Iechyd Cymru na fydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu heffeithio gan y lefelau uwch ac na ddylent boeni'n ormodol.

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, llygredd aer yw'r risg amgylcheddol mwyaf i iechyd - ac mae wedi ei gysylltu gyda saith miliwn o farwolaethau yn flynyddol. Mae'r mwyafrif o'r marwolaethau hyn yn gysylltiedig â salwch yn ymwneud a'r galon a'r ysgyfaint.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol