Bachgen a oedd ar goll dros nos wedi ei ddarganfod
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu a gwylwyr y glannau yn dweud bod bachgen 16 oed o Sir Benfro a aeth ar goll dros nos wedi ei ddarganfod yn fyw ac iach toc wedi 9am.
Sbardunwyd y chwilio amdano wedi iddo fethu dychwelyd i'w gartref yn ardal Hwlffordd nos Fercher.
Roedd y gwasanaethau argyfwng wedi canolbwyntio ar chwilio llwybrau arfordirol ger Aberdaugleddau.