Cyrchoedd tai bwyta Asiaidd yn 'annheg'
- Cyhoeddwyd

Mae aelod seneddol o Gymru wedi honni bod swyddogion mewnfudo wedi cynnal cyrchoedd mewn tai bwyta Asiaidd ar adegau prysur, gan ddal staff yn annheg.
Dywedodd Nia Griffith, AC Llafur Llanelli, bod tai bwyta wedi cael eu targedu nos Wener a nos Sadwrn gan godi braw ar gwsmeriaid ac achosi i'r perchnogion golli arian a chwsmeriaid.
Roedd yn cydnabod bod angen cadw rheolaeth dros fewnfudo.
Dywedodd y Swyddfa Gartref bod y cyrchoedd yn ganlyniad i wybodaeth gyfrin ac wedi eu hamseru i fod yn fwy effeithiol.
Yn ystod cyfarfod yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd perchnogion tai bwyta Asiaidd wrth ASau o Gymru bod gweithredoedd swyddogion mewnfudo yn cael effaith niweidiol ar eu busnesau.
'Cywilyddus'
Dywedodd Ana Miah, perchennog tŷ bwyta yng Nghaerdydd lle bu cyrch y llynedd: "Mae'r cyrchoedd yma'n cael eu cynnal mewn dull 'commando'.
"Mae'r swyddogion yn dod i mewn, cau'r drysau ac ymgynnull y staff mewn un ystafell, ac mae'r tŷ bwyta'n cael ei gau lawr i bob pwrpas - dydyn ni ddim yn cael ateb y ffôn na hyd yn oed siarad gyda chwsmeriaid sy'n aros tu allan."
Yn ôl Nia Griffith AS, mae rhai o'r cyrchoedd sydd wedi eu cynnal yn "ddim llai na chywilyddus" a honodd fod busnesau'n diodde' oherwydd "tactegau llawdrwm".
"Nid yn unig y mae hyn yn golygu colled ariannol ar y noson, ond mae'n cael effaith ar enw da'r tai bwyta," meddai.
"Mewn rhai achosion does dim rheswm digonol am y weithred felly mae'n wastraff o arian y trethdalwr."
Ychwanegodd AS De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty, bod y gymuned tai bwyta Asiaidd yn teimlo eu bod yn cael eu targedu, a dywedodd AS Dwyrain Casnewydd, Jessica Morden, bod siopau hefyd yn cael eu tynnu i mewn i'r mater.
Dim ymddiheuriad
Dywedodd Gweinidog y Swyddfa Gartref Karen Bradley na fyddai'n ymddiheuro am weithredu'r ddeddf fewnfudo ac y byddai'r llywodraeth yn parhau i gymryd camau cadarn i wneud hynny.
"Rwy'n cydnabod yr aflonyddu ac yn cydymdeimlo gyda'r pryderon a godwyd," meddai, "ond yr adegau prysur yw'r union adegau pan yr ydym yn gweld y tebygrwydd mwyaf o ganlyniad llwyddiannus."
Ychwanegodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "O'r 7,900 o gyrchoedd a gynhaliwyd ar draws y DU'r llynedd fe wnaethon ni arestio ymhell dros 7,000 o bobl.
"Mae hynny'n dangos bod cyfiawnhad i'n gweithredoedd a'u bod yn llwyddiannus."
Straeon perthnasol
- 31 Mawrth 2014
- 18 Chwefror 2014
- 7 Ionawr 2014
- 18 Tachwedd 2013
- 28 Gorffennaf 2013