Murco: 400 o swyddi yn y fantol
- Cyhoeddwyd
Murco Arlein
Mae 400 o swyddi yn y fantol wedi i drafodaethau i werthu purfa olew Murco yn Aberdaugleddau ddod i ben heb gytundeb.
Dywedodd cwmni Murphy Oil, sy'n berchen ar y safle, eu bod yn dechrau ymgynghoriad gyda'r staff am ddyfodol y burfa.
Mae'r safle wedi bod ar werth ers pedair blynedd, ond roedd y cwmni wedi bod yn cynnal trafodaethau ers tro gyda chwmni Greybull Capital.
Dywedodd y cwmni y byddai trafodaethau gyda chwmnïau eraill oedd â diddordeb yn y safle yn parhau.
'Ergyd ofnadwy'
Mae aelod seneddol Preseli Penfro, Stephen Crabb, wedi dweud: "Mae colli gwerthiant safle Murco yn ergyd ofnadwy i Sir Benfro ac i economi gorllewin Cymru yn ehangach.
"Mae cannoedd o swyddi o safon uchel nawr yn y fantol. Mae Sir Benfro wedi gweld cau purfeydd o'r blaen ac yn gwybod y gall yr effaith tymor byr fod yn anferthol.
"Os nad yw Murphy Oil yn medru cytuno gyda Greybull yna rhaid iddyn nhw edrych ar bob dewis arall i werthu ar frys.
"Rwyf wedi siarad gyda phrynwr posib arall ar ddau achlysur ac maen nhw'n dweud eu bod wedi cael eu cau allan o'r ddêl oherwydd y trafodaethau ecscliwsif gyda Greybull.
"Mae'n amser nawr i Murphy siarad gyda'r cwmni yma am eu bwriad.
"Rwyf wedi cael cyfarfod brys gyda'r Gweinidog Ynni Michael Fallon, gan ofyn iddo weithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnig pob cymorth posib er mwyn osgoi'r canlyniad gwaethaf, sef cau'r burfa."
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones AS: "Mae'n ddrwg iawn gan y llywodraeth glywed am y datblygiadau ym mhurfa olew Murco yn Aberdaugleddau a'r effaith y gallai hyn ei gael ar y gweithwyr, eu teuluoedd a'r gymuned.
"Mae Swyddfa Cymru mewn cysylltiad agos gyda chydweithwyr yn yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, Llywodraeth Cymru a swyddogion Murco Petroleum ar y mater.
"Rydym yn barod i gefnogi Murco yn eu hymdrechion i ddod o hyd i brynwr gyda'r nod o sicrhau dyfodol y burfa a swyddi'n gweithwyr yno."
'Swyddi gwerthfawr'
Yn ôl Gweinidog Economi Cymru, Edwina Hart: "Mae'r cyhoeddiad yma yn siomedig iawn ac rydym yn cydnabod yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar weithwyr, contractwyr a busnesau'r ardal.
"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Murco dros y pedair blynedd diwethaf i geisio sicrhau fod gwaith y burfa'n parhau gan warchod swyddi yn Aberdaugleddau.
"Bydd y Prif Weinidog yn ymweld â'r safle ar y cyfle cyntaf i ystyried pob dewis i gadw'r swyddi gwerthfawr yma yn Aberdaugleddau.
"Rydym yn awyddus i gydweithio gyda phob lefel o lywodraeth ac rwyf eisoes wedi siarad gyda Gweinidog Ynni a Busnes y DU i drafod sut y gallwn gefnogi'r gweithwyr a'r cwmni yn y cyfnod anodd a phryderus yma."
Dywedodd Tom McKinlay, Rheolwr Gyfarwyddwr Murco Petroleum: "Rydym yn canolbwyntio heddiw ar helpu'n pobl ni i ddeall beth mae hyn yn ei olygu iddyn nhw.
"Am dros dair blynedd rydym wedi chwilio'n ddiflino am brynwr i'r burfa. Mae'r ymdrechion yn dangos yr heriau ddaw o'r newidiadau i'r diwydiant puro olew yn Ewrop ac nid ydynt yn adlewyrchu agwedd na gwaith tîm Murco.
"Fe fyddwn yn parhau i wneud popeth o few ein gallu i sicrhau bod ein gweithwyr yn cael eu cefnogi yn y cyfnod hwn."
Straeon perthnasol
- 20 Mawrth 2014
- 19 Medi 2012
- 11 Mawrth 2011
- 23 Gorffennaf 2010