Ymosod ar fenyw 27 oed yn Nhrecelyn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad ar ddynes yn Nhrecelyn.
Digwyddodd yr ymosodiad am 3:00yh ar ddydd Mercher, Ebrill 2, ar Yewtree Road yn y dref.
Cafodd y ddynes 27 oed ei chludo i Ysbyty Brenhinol Gwent gydag anafiadau i'w gwddf a thorri asgwrn bys.
Disgrifiwyd yr ymosodwr fel dyn gwyn yn ei 20au cynnar, tua 5'52"-5'56" o daldra, gyda chorff cryf a gwallt du wedi ei dorri yn fyr.
Roedd yn gwisgo siaced wen, jîns, esgidiau rhedeg, ac roedd ganddo sgarff tîm pêl droed Lerpwl yn hongian o gwmpas ei ganol a chefn ei goesau.
Ar ôl ymosod ar y ddynes, fe blygodd i lawr i godi beth bynnag oedd wedi achosi anaf i'w gwddf o'r llawr cyn cerdded i ffwrdd.
Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 257 2/4/14.